Arolwg Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol

Arolwg Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol
Arolwg 2023

Dechreuodd y Comisiwn Arolwg 2023 o Etholaethau Seneddol yn 2021 a chyflwynodd ei Argymhellion Terfynol i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin cyn 1 Gorffennaf 2023.

Mae gwaith y Comisiwn yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd) (‘y Ddeddf’). Mae’r Ddeddf yn nodi y dylai ein hadroddiad gael ei gyflwyno i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a bod yn rhaid anfon copïau o’r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet.

Cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd

Cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd
Arolwg 2023

Agorodd Cyfnod Ymgynghori Eilaidd Arolwg 2023, a oedd yn cynnwys 5 Gwrandawiad Cyhoeddus y Comisiwn, ar 17 Chwefror 2022 a daeth i ben ar 30 Mawrth 2022.

Mae pob sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd, yn ogystal â'r trawsgrifiad o bob Gwrandawiad Cyhoeddus i'w gweld yn y ffeiliau atodedig.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg, darllenwch Ganllaw'r Comisiwn i'r Arolwg.

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn chwilio am Gomisiynwyr Cynorthwyol

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn recriwtio pedwar Comisiynydd Cynorthwyol (gan gynnwys un swydd wrth gefn) i gynorthwyo gwaith yr Arolwg 2023 o etholaethau seneddol Cymru.

Bydd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn cadeirio’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhelir ledled Cymru yn gynnar yn 2022 wrth i’r Comisiwn ofyn i’r cyhoedd gyflwyno eu barn ar y cynigion cychwynnol caiff eu cyhoeddi ym mis Medi 2021.

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn chwilio am unigolion sydd yn onest a gyda annibyniaeth meddwl, a all weithio'n gywir ac yn gyflym dan bwysau, gan ystyried manylion yn gyflym, a dadansoddi llawer iawn o wybodaeth yn wrthrychol.

Rhaid i ymgeiswyr allu cynhyrchu argymhellion clir a chryno ar sail tystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gweithio'n dda fel rhan o dîm, egluro gweithdrefnau, ysbrydoli parch a hyder, a chynnal awdurdod wrth gael eu herio, yn enwedig mewn cyd-destun gwrandawiad cyhoeddus.

Mae profiad o gynnal a rheoli gwrandawiadau cyhoeddus gyda chyfranogiad personol a rhithwir yn hanfodol ar gyfer y rôl, ynghyd â'r gallu i drin pawb â pharch a sensitifrwydd beth bynnag fo'u cefndir.

Rhaid io leiaf un o'r Comisiynwyr Cynorthwyol a benodir fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Bydd Comisiynwyr Cynorthwyol yn derbyn tâl o £ 505.50 y dydd (£252.75 y hanner diwrnod).

Y dyddiad cau yw 23 Gorffennaf 2021.

Gwelwch y manylion llawn yn y ddogfen isod.

Lawrlwytho Dogfen