Arolwg Seneddol 2023
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth gryno am Arolwg Seneddol 2023, gyda dolenni i wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â phob cam o’r Arolwg.
Mae Canllaw i’r Arolwg y Comisiwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am broses yr Arolwg.
Cynigion Cychwynnol – 8 Medi 2021
Y lle gorau i weld mapiau rhyngweithiol o’n cynigion ac anfon eich safbwyntiau atom ar yr hyn rydym wedi’i gynnig yw ein porth ymgynghori.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich sylwadau ar y cynigion atom erbyn dyddiad cau’r cyfnod ymgynghori fan bellaf – 3 Tachwedd 2021.
Os hoffech ddarllen ein Hadroddiad Cynigion Cychwynnol, gweld delweddau o etholaethau arfaethedig neu lawrlwytho data am nifer yr etholwyr a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg, gweler yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
Delweddau cefndir mapiau a data geo-ofodol © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata [2021] OS [100047875]. Mae defnydd o’r data hwn yn ddarostyngedig i delerau ac amodau.
Mannau adneuo ar gyfer copïau caled o’r cynigion
Rydym yn adneuo copi caled o’n cynigion ar gyfer etholaethau newydd mewn un man cyhoeddus o leiaf yn yr etholaeth arfaethedig berthnasol. Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o fannau adneuo (dogfen Excel) yn yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon. Sylwch fod gan rai mannau cyhoeddus oriau agor cyfyngedig, ac fe allai cyfyngiadau mynediad ychwanegol fod ar waith yn lleol i amddiffyn rhag lledaenu COVID-19. Felly, cynghorir unrhyw un a hoffai weld y copïau caled hyn gysylltu â’r man adneuo’n uniongyrchol (nid y Comisiwn Ffiniau i Gymru) i gadarnhau’r trefniadau mynediad penodol sydd ar waith ar gyfer y safle hwnnw.
Gwybodaeth Cyffredinol am Arolwg 2023
Ar ôl i Ddeddf Etholaethau Seneddol 2020 gael ei phasio ym mis Rhagfyr 2020, a’r data etholwyr Seneddol perthnasol gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2021, dechreuom gynnal arolwg newydd o’r holl etholaethau Seneddol yn Lloegr. Cyfeiriwn at hyn fel ‘Arolwg 2023’, gan fod rhaid i ni adrodd ar ein hargymhellion terfynol erbyn 1 Gorffennaf 2023.
Mae cymhwyso’r fformiwla statudol i’r ffigurau etholwyr yn golygu bod y cyfanswm o 650 o etholaethau’n cael eu dosbarthu yn ystod yr arolwg i’r pedair rhan o’r Deyrnas Unedig fel a ganlyn:
- Lloegr = 543 (gan gynnwys dwy etholaeth ‘warchodedig’ ar Ynys Wyth);
- Yr Alban = 57 (gan gynnwys dwy etholaeth ‘warchodedig’ ar gyfer ynysoedd penodedig yr Alban);
- Cymru = 32 (gan gynnwys un etholaeth ‘warchodedig’ ar Ynys Môn); a
- Gogledd Iwerddon = 18
Mae cymhwyso’r fformiwla statudol yn arwain at 8 Etholaeth Seneddol yn llai ledled Cymru.
Mae cymhwyso rheolau statudol ychwanegol i’r nifer etholwyr gyhoeddedig hefyd yn golygu bod rhaid i’r holl etholaethau argymelledig gynnwys dim llai na 69,724 o etholwyr Seneddol a dim mwy na 77,062 (heblaw am yr etholaethau ‘gwarchodedig’ hynny a grybwyllir uchod). Yn ôl y gyfraith, mae’r ffigurau nifer yr etholwyr hyn yn ymwneud â’r etholaethau fel yr oeddent ar 2 Mawrth 2020.
Beth sy’n Digwydd Nawr?
Ar 8 Medi 2021, cyhoeddwyd ein cynigion cychwynnol ar gyfer sut gallai’r 32 o etholaethau ar gyfer Cymru gael eu llunio o fewn y paramedrau cyfreithiol a grybwyllir uchod. Cychwynnodd hyn gyfnod ymgynghori statudol wyth wythnos (a ddaw i ben ar 3 Tachwedd 2021), pryd y gall unrhyw un roi eu barn i ni am y cynigion hyn. Hoffem gael barn pobl yn arbennig ynglŷn ag i ba raddau mae’r cynigion yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yn yr ardal, ac os yw pobl yn anghytuno â’n cynigion, sut maen nhw’n credu y dylent gael eu diwygio.
Bydd dwy rownd arall o ymgynghori cyhoeddus.
Cwestiynnau Cyffredin
Mae’r Comisiwn wedi creu dogfen Cwestiynau Cyffredin a allai roi atebion i unrhyw ymholiadau cyffredinol sydd gennych ynglŷn â’r Broses Arolwg Seneddol. Mae’r ddogfen hon ar gael yn yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
Amserlen yr Arolwg
Mae ein hamserlen amlinellol gychwynnol wedi’i chynllunio fel a ganlyn:
- 5 Ionawr 2021: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ffigurau etholwyr, a’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn dechrau datblygu cynigion cychwynnol;
- 16 Mawrth 2021: Cyhoeddi’r ‘Canllaw i Arolwg 2023’;
- 8 Medi 2021: Cyhoeddi’r cynigion cychwynnol a chynnal ymgynghoriad wyth wythnos;
- Rhagfyr 2021: Cyhoeddi ymatebion i’r cynigion cychwynnol
- Ionawr 2022: Cynnal ‘ail ymgynghoriad’ chwe wythnos, gan gynnwys rhwng dau a phum gwrandawiad cyhoeddus ym mhob rhanbarth;
- Diwedd 2022: Cyhoeddi cynigion diwygiedig a chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig pedair wythnos;
- Mehefin 2023: Cyflwyno a chyhoeddi’r adroddiad a’r argymhellion terfynol.
Gallwch ddarllen mwy am y broses, y gyfraith a’r polisïau rydym yn gweithio yn unol â nhw wrth gynnal yr arolwg yn ein Canllaw i’r Arolwg.
Rydym wedi creu pecyn partneriaid, sy’n cynnwys ein datganiad i’r wasg, copi a graffigau ar gyfer eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol, cwestiynau cyffredin a mwy i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i Arolwg Ffiniau 2023. Mae Pecyn Partneriaid y Comisiwn ar gael yn yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
Bydd yr holl wybodaeth am yr arolwg hwn yn cael ei chyhoeddi yn y rhan hon o’n gwefan, a bydd diweddariadau allweddol a hysbysiadau’n cael eu cyhoeddi trwy ein cyfrif Twitter hefyd @BCommWales.