Arolwg Seneddol 2023 - Cynigion Diwygiedig

19/10/22
Arolwg 2023

Arolwg Seneddol 2023

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth gryno am Arolwg Seneddol 2023, gyda dolenni i wybodaeth bellach yn ymwneud â phob cam o’r Arolwg.

Mae Canllaw’r Comisiwn i Arolwg 2023 yn darparu rhagor o wybodaeth am broses yr Arolwg.

Cynigion Diwygiedig - 19 Hydref 2022

Y lle gorau i weld mapiau rhyngweithiol o’n cynigion ac anfon eich barn atom ar yr hyn rydym wedi’i gynnig yw ein porth ymgynghori. Sicrhewch eich bod yn anfon eich barn ar y cynigion atom erbyn dyddiad cau'r cyfnod ymgynghori – 15 Tachwedd 2022 fan bellaf.

Os hoffech ddarllen ein Hadroddiad Cynigion Diwygiedig, gweld lluniau o'r etholaethau arfaethedig neu lawrlwytho'r data etholwyr a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg, gweler yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

Mapio delwedd cefndir a data geo-ofodol © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata [2022] OS [100047875]. Mae telerau ac amodau yn berthnasol i ddefnyddio'r data hwn.

Mannau adneuo ar gyfer copïau caled o gynigion

Rydym yn adneuo copi caled o’n cynigion ar gyfer etholaethau newydd mewn o leiaf un man cyhoeddus yn yr etholaeth arfaethedig berthnasol. Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o fannau adneuo (dogfen Word) yn yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon. Cofiwch fod gan rai mannau cyhoeddus oriau agor cyfyngedig.

Fe gynghorir unrhyw un sydd â diddordeb mewn edrych ar y copïau caled hyn i gysylltu â'r man adneuo yn uniongyrchol (nid CFfG) i gadarnhau'r trefniadau mynediad penodol sydd ar waith ar gyfer y safle hwnnw.

Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol

Roedd y 4 Comisiynydd Cynorthwyol yn gyfrifol am Wrandawiadau Cyhoeddus y Comisiwn yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd.

Ar ôl ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn ystod y Cyfnodau Ymgynghori Cychwynnol ac Eilaidd, maent wedi cyflwyno eu hadroddiad (a gyhoeddir isod) yn crynhoi'r cynrychiolaethau ac yn gwneud eu hargymhellion eu hunain i'r Comisiwn.

Gwybodaeth Gyffredinol am Arolwg 2023

Yn dilyn pasio Deddf Etholaethau Seneddol 2020 ym mis Rhagfyr 2020, a chyhoeddi’r data etholwyr Seneddol perthnasol ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom ddechrau Arolwg newydd o’r holl etholaethau Seneddol yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at hwn fel ‘Arolwg 2023’, gan ei bod yn ofynnol i ni adrodd gyda’n hargymhellion terfynol erbyn 1 Gorffennaf 2023.

Mae cymhwyso’r fformiwla statudol i’r ffigurau etholwyr yn golygu bod y 650 o etholaethau yn cael eu dosbarthu yn ystod yr Arolwg i bedair rhan y DU fel a ganlyn:

  • Lloegr = 543 (yn cynnwys dwy etholaeth ‘warchodedig’ ar Ynys Wyth);
  • Yr Alban = 57 (yn cynnwys dwy etholaeth ‘warchodedig’ ar gyfer ynysoedd penodol yr Alban);
  • Cymru = 32 (yn cynnwys un etholaeth ‘warchodedig’ ar Ynys Môn); a
  • Gogledd Iwerddon = 18

Mae cymhwyso'r fformiwla statudol yn arwain at ostyngiad o 8 Etholaeth Seneddol ledled Cymru.

Mae cymhwyso rheolau statudol pellach i’r etholwyr cyhoeddedig hefyd yn golygu bod yn rhaid i bob etholaeth a argymhellir fod â dim llai na 69,724 o etholwyr Seneddol a dim mwy na 77,062 (ac eithrio’r etholaethau ‘gwarchodedig’ a grybwyllir uchod). Yn ôl y gyfraith, mae’r ffigurau etholwyr hyn yn ymwneud â’r etholwyr fel yr oeddent ar 2 Mawrth 2020.

Beth Sy'n Digwydd Nawr?

Ar 19 Hydref 2022 cyhoeddwyd ein Cynigion Diwygiedig ar gyfer sut y gellid llunio’r 32 etholaeth i Gymru o fewn y paramedrau cyfreithiol a grybwyllwyd uchod. Mae hyn yn dechrau cyfnod ymgynghori statudol o bedair wythnos (yn cau 15 Tachwedd 2022), pan fydd unrhyw un yn gallu rhoi eu barn i ni ar y cynigion hynny.

Bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl am y graddau y mae’r cynigion yn adlewyrchu’r cysylltiadau lleol yn yr ardal, ac os yw pobl yn anghytuno â’n cynigion, sut y maent yn meddwl y dylid eu diwygio.

Dyma’r cyfnod ymgynghori terfynol yn ystod Arolwg 2023.

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Comisiwn wedi creu dogfen Cwestiynau Cyffredin yn Aml a all roi atebion i unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych am y Broses Adolygu Seneddol. Gellir dod o hyd i'r ddogfen yma.

Amserlen yr Arolwg

Mae ein hamserlen amlinellol bresennol fel a ganlyn:

  • 5 Ionawr 2021: SYG yn cyhoeddi ffigurau etholwyr, BCW yn dechrau datblygu cynigion cychwynnol;
  • 16 Mawrth 2021: Cyhoeddi ‘Canllaw i Adolygiad 2023’;
  • 8 Medi 2021: Cyhoeddi cynigion cychwynnol a chynnal ymgynghoriad wyth wythnos;
  • 13 Rhagfyr 2021: Cyhoeddi ymatebion i gynigion cychwynnol
  • 17 Chwefror 2022: cynnal ‘ymgynghoriad eilradd’ chwe wythnos, gan gynnwys pum gwrandawiad cyhoeddus;
  • 19 Hydref 2022: Cyhoeddi cynigion diwygiedig a chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig pedair wythnos;
  • Mehefin 2023: Cyflwyno a chyhoeddi adroddiad terfynol ac argymhellion.

Gallwch ddarllen mwy am y broses, y gyfraith a’r polisïau rydym yn gweithio iddynt yn yr adolygiad yn ein Canllaw i Arolwg 2023.

Rydym wedi creu pecyn partneriaid, sy'n cynnwys ein datganiad i'r wasg, copi a graffeg ar gyfer eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol, Cwestiynau Cyffredin a mwy i'ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i Adolygiad Ffiniau 2023. Mae Pecyn Partneriaid y Comisiwn i’w weld yn yr ardal lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

Bydd yr holl wybodaeth am yr adolygiad hwn yn cael ei chyhoeddi drwy’r adran hon o’n gwefan, gyda diweddariadau a hysbysiadau allweddol hefyd yn cael eu cyhoeddi drwy ein cyfrif Twitter @BCommWales.

Lawrlwytho Dogfen