Rhif cyfeirnod
247122
Cyflog
£21,300 - £24,630
Gradd swydd
Swyddog Gweinyddol
Math o gontract
Parhaol
Math o rôl
Cefnogaeth Weinyddol / Gorfforaethol
Patrwm gweithio
Llawn amser
Nifer o swyddi sydd ar gael
1
Cliciwch yma er mwyn gwneud cais
Crynodeb o'r swydd
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r rôl o gadw ffiniau a threfniadau etholiadol ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru dan arolwg a gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau sy’n ymddangos i’r Comisiwn yn ddymunol er llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’n gorff statudol â swyddogaethau statudol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff a noddir gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, sydd â’r rôl o gadw’r etholaethau seneddol yng Nghymru dan arolwg, yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd).
Diben y Swydd: Mae deiliad y swydd yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu am rhoi gymorth i tim y Comisiwn gan gynnwys dyletswyddau swyddfa cyffredinol, gan helpu i gydlynu'r broses achredu o ddyfarniadau amrywiol yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith cymorth busnes a chymorth ariannol arall yn ôl y gofyn. Mae deiliad y swydd hefyd yn ymgymryd â'r un rôl ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Swydd ddisgrifiad
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Comisiwn gan gynnwys cymryd galwadau ffôn ac ateb ymholiadau lle bo hynny'n bosibl. Trosglwyddo galwadau i'r cydweithwyr priodol pan na allant ateb ymholiad.
- Prosesu'r post sy'n dod i mewn
- Cysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Swyddfa'r Cabinet, cyflenwyr, landlordiaid a Chomisiynwyr.
- Helpu i gydlynu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Comisiwn Fiiniau i Gymru gan gynnwys cymryd cofnodion, ymweliadau safle, archebion gwestai, a Chyfarfodydd Cyhoeddus achlysurol, os oes angen.
- Cynorthwyo gyda'r camau gofynnol i'r Comisiwn gael achrediadau amrywiol yn y gweithle e.e. Gwobr y Ddraig Werdd, IIP a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach.
- Cynnal a diweddaru cronfeydd data'r Comisiwn.
- Darparu cymorth Cyllid pan fo'n ofynnol gan y Rheolwr Cyllid
- Darparu cymorth busnes pan fo'n ofynnol gan y Pennaeth Busnes e.e. cymorth gweinyddol ar gyfer recriwtio, asesiadau DSE, cysylltu â'r Rheolwr Adeiladu a dod o hyd i gyflenwyr newydd.
- Adeiladu a chynnal perthynas waith gref â rhanddeiliaid allweddol.
- Dyletswyddau cyffredinol eraill
Cliciwch yma er mwyn gwneud cais