Arolwg 2023

05/01/21
Arolwg 2023

Cynhelir Arolwg 2023 o Etholaethau Seneddol yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwigiwyd)  (Dolen Allanol).

Mae Rheolau’r Ddeddf yn pennu nifer yr etholaethau i’w darparu i Gymru ar gyfer Etholiad Seneddol San Steffan 2024.  Mae hefyd yn nodi y dylai pob etholaeth yng Nghymru fod â nifer o etholwyr sydd o fewn  ±5% o gyfartaledd neu cwota y DU.

O dan y ddeddfwriaeth, bydd yn ofynnol i’r Comisiwn seilio ei argymhellion ar nifer yr etholwyr y mae eu henwau yn ymddangos ar gofrestr yr etholwyr seneddol a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 5 Ionawr 2021.

Mae’r pedwar Comisiwn Ffiniau yn y DU wedi cytuno, at ddibenion Arolwg 2023, mai cyfanswm nifer yr etholwyr yn y DU yw 47,558,398 ac, ar ôl cymhwyso’r fformiwla a bennir yn y Ddeddf, mae nifer yr etholaethau ar gyfer pob rhan o’r DU fel a ganlyn:

Gwlad Etholwyr Dyraniad presennol Dyraniad newydd
Lloegr* 39,860,421 533 543
Gogledd Iwerddon 1,295,688 18 18
Yr Alban** 4,079,612 59 57
Cymru*** 2,322,677 40 32
Cyfanswm 47,558,398 650 650

* Nid yw nifer yr etholwyr ar gyfer Lloegr yn cynnwys etholwyr Ynys Wyth.  Caniateir i’r ardal hon greu etholaethau lle mae nifer yr etholwyr yn fwy na 5% y tu allan i gwota etholwyr y DU. Mae nifer yr etholaethau a ddyrannwyd i Gymru yn cynnwys yr etholaeth ychwanegol ar gyfer Ynys Wyth.  
** Nid yw nifer yr etholwyr ar gyfer yr Alban yn cynnwys etholwyr dwy etholaeth wedi’u cadw sef a) Orkney and Shetland a b) Na h-Eileanan ân Iar.  Caniateir i’r etholaethau hyn gael nifer etholwyr sy’n fwy na 5% y tu allan i gwota etholwyr y DU. Mae nifer yr etholaethau a ddyrannwyd i’r Alban yn cynnwys yr etholaeth ychwanegol ar gyfer Orkney and Shetland a Na h-Eileanan ân Iar.

*** Nid yw nifer yr etholwyr ar gyfer Cymru yn cynnwys etholwyr Ynys Môn.  Caniateir i’r ardal hon greu etholaeth lle mae nifer yr etholwyr yn fwy na 5% y tu allan i gwota etholwyr y DU. Mae nifer yr etholaethau a ddyrannwyd i Gymru yn cynnwys yr etholaeth ychwanegol ar gyfer Ynys Môn.

Cwota etholwyr y DU i’r cyfanrif agosaf yw 73,393.  Felly, mae’n rhaid i bob etholaeth arfaethedig gynnwys rhwng 69,724 ac 77,062 o etholwyr.

Bydd Cynigion Cychwynnol ar gyfer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni, a dilynir hynny gan gyfnod o ymgynghori.  Arhoswch hyd nes bod y cyfnod ymgynghori yn dechrau cyn anfon eich barn atom.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom yn cffg@ffiniau.cymru neu ffoniwch 029 2046 4819.