Ymgynghoriad terfynol Arolwg Ffiniau Cymru yn dod i ben

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn canmol yr ymgysylltiad mwyaf erioed

Daeth cyfnod ymgynghori terfynol Arolwg 2023 y Comisiwn Ffiniau i Gymru o etholaethau seneddol i ben am 23:59 ar 15 Tachwedd, gyda’r nifer uchaf erioed o ymatebion wedi dod i law ers dechrau’r Arolwg.

Yr ymgynghoriad – ar Gynigion Diwygiedig y Comisiwn ar gyfer y map newydd o 32 o etholaethau seneddol Cymru – oedd yr olaf mewn sawl cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn cyn i’r Argymhellion Terfynol gael eu cyflwyno i Senedd San Steffan yn 2023.

Derbyniodd y Comisiwn tua 2,000 o ymatebion yn ystod y 3 chyfnod ymgynghori, sy’n sylweddol uwch na’r nifer a dderbyniwyd yn ystod Arolwg 2018.

Bydd yr holl gynrychiolaethau a dderbynnir gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod ymgynghori 4 wythnos yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r Argymhellion Terfynol ym mis Gorffennaf 2023.

Wrth wneud sylw ar ddiwedd yr ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Rwy’n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am chwarae rhan mor weithgar yn yr Arolwg hwn.

“Trwy gydol yr Arolwg, rydym wedi gofyn i’r cyhoedd rannu eu harbenigedd ar eu hardaloedd lleol i gryfhau ein cynigion ac mae’r Comisiwn wrth ei fodd â lefel yr ymgysylltiad cyhoeddus a gawsom drwy gydol yr Arolwg hwn.

“Mae’r Comisiwn eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w gynigion ar sail cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod y ddau ymgynghoriad cyntaf.

“Byddwn nawr yn ystyried y cannoedd o sylwadau a dderbyniwyd dros y 4 wythnos diwethaf a bydd ein Hargymhellion Terfynol yn cael eu cryfhau’n sylweddol gan faint o adborth rydym wedi’i dderbyn gan y cyhoedd.”

Bydd Argymhellion Terfynol y Comisiwn, sydd i’w cyflwyno ym mis Gorffennaf 2023, yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf gan y rheol awtomatigrwydd, sy’n golygu nad oes angen pleidlais yn y senedd er mwyn i’r argymhellion gael eu deddfu.