Bywgraffiadau

Mr Huw Vaughan Thomas CBE

Treuliodd Huw Vaughan Thomas CBE ei flynyddoedd cynnar yn Abertridwr. Cafodd ei addysg yn Essex, ac astudiodd Hanes Modern ym Mhrifysgol Durham a Gwyddorau Rheoli yn City University, Llundain. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac yn Aelod Anrhydeddus o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

Mae Huw wedi gweithio mewn nifer o rolau yn y sector cyhoeddus, yn yr Adran Gyflogaeth a Gwasanaethau’r Gweithlu i ddechrau, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Lloegr a Chyfarwyddwr Cymru. Ym 1991, cafodd ei benodi yn Brif weithredwr Cyngor Sir Gwynedd, ac yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol daeth yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych.

Cyn cael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2010, bu Huw yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun gan arbenigo mewn llywodraethu a gwerthuso polisi. Hefyd, bu’n gwasanaethu mewn nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Hearing Aid Council, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, Cyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr a’r Bwrdd Parôl.  Roedd yn aelod o Gomisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a bu’n gadeirydd Cronfa’r Loteri Fawr yng Nghymru.

Dyfarnwyd CBE iddo am wasanaethau i Archwilio Cyhoeddus ac Atebolrwydd yng Nghymru yn 2018; mae Huw yn byw yng Ngogledd Cymru ac mae’n Ddarllenydd yr Eglwys yng Nghymru.

Mr Sam A Hartley
Penodwyd Sam yn ddiweddar i sefydlu ac arwain yr ymchwiliad cyhoeddus statudol i Fomio Omagh ym 1998. Symudodd yno o Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19, lle y bu’n Gyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Dadansoddi ac yn Ddirprwy Ysgrifennydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gan Sam gefndir mewn uwch arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus. Cyn ymuno ag Ymchwiliad Covid, arweiniodd Gorff Hyd Braich annibynnol ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth. Ac yntau’n ysgrifennydd y Comisiwn Annibynnol ar Sŵn Hedfan Sifil, ef oedd ei brif weithredwr a’i swyddog cyfrifyddu. Ef oedd yr aelod o staff cyntaf a benodwyd pan gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ionawr 2019 ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu’r sefydliad, gan weithio gyda’r Cadeirydd a’r bwrdd i osod a chyflawni rhaglen waith ICCAN o fis Ionawr 2019 i fis Rhagfyr 2021. Cyn hynny, roedd yn Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Loegr, gan arwain y sefydliad wrth gynnal adolygiad gwleidyddol ddadleuol o ffiniau Seneddol rhwng 2015 a 2018. Mae ganddo gefndir ehangach yn y meysydd cyfansoddiadol a rheoleiddiol, a bu ganddo rolau uwch eraill gyda rheoleiddwyr gofal iechyd a chyfansoddiadol, yn ogystal â Swyddfa’r Cabinet. Mae Sam yn aelod o fwrdd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, a Chymdeithas y Prif Weithredwyr, a bu gynt yn aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg adran o’r llywodraeth, ac yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau awdurdod lleol.
Mrs Justice Jefford DBE

Cafodd Meistres Ustus Jefford DBE ei geni a’i magu yn Abertawe.  Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Abertawe cyn astudio’r gyfraith yn Neuadd y Fonesig Margaret, Rhydychen, ac ym Mhrifysgol Virginia, lle’r oedd yn Ysgolor Fulbright.

Galwyd Meistres Ustus Jefford i’r Bar gan Gray’s Inn ym 1986 a bu’n ymarfer yn Siambrau Keating yn Llundain, gan arbenigo mewn cyfraith adeiladu a pheirianneg.  Cafodd ei phenodi yn Gofiadur yn 2007 ac yn Gwnsler y Frenhines yn 2008.  Fe’i penodwyd yn Farnwr yr Uchel Lys yn 2016.  Yn 2020, cafodd ei phenodi yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru.  

Mae Meistres Ustus Jefford wedi cadw ei chysylltiadau â Chymru drwy ei haelodaeth faith yng Nghorâl Cymry Llundain a’i hymglymiad â Chymdeithas Cyfreithwyr Cymry Llundain ac Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies.