Argymhellion y Comisiwn Ffiniau i ddod i rym o'r etholiad nesaf
Dewch o hyd i'r Argymhellion Terfynol yma.
Mae adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi’i osod gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, ac mae’r map newydd o gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.
Dechreuodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru Arolwg 2023 o etholaethau seneddol yng Nghymru yn 2021 ac roedd Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno ei Argymhellion Terfynol i’r Senedd erbyn 1 Gorffennaf 2023.
Penderfynodd y Ddeddf y byddai gan Gymru 32 o etholaethau yn dilyn yr arolwg, gostyngiad o’r 40 presennol. Roedd yn rhaid i bob etholaeth a argymhellwyd gan y Comisiwn gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr, ac eithrio Ynys Môn a oedd yn etholaeth warchodedig ac sy’n parhau heb ei newid yn dilyn yr Arolwg.
Cynhaliwyd tri chyfnod ymgynghori, a 5 Gwrandawiad Cyhoeddus yn ystod yr Arolwg a chyflwynwyd dros 2,000 o gynrychiolaethau i'r Comisiwn ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae Argymhellion Terfynol y Comisiwn, a ddaw i rym yn awtomatig yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn gweld newidiadau sylweddol pellach o’r Cynigion Diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ym mis Hydref 2022, yng ngoleuni’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y Comisiwn.
Mae 21 o etholaethau yn parhau heb eu newid ers y Cynigion Diwygiedig:
- Ynys Môn
- Bangor Aberconwy
- Clwyd North
- Clwyd East
- Alyn and Deeside
- Wrexham
- Ceredigion Preseli
- Mid and South Pembrokeshire
- Pontypridd
- Vale of Glamorgan
- Cardiff North
- Cardiff South and Penarth
- Cardiff East
- Cardiff West
- Caerfyrddin
- Llanelli
- Brecon, Radnor and Cwm Tawe
- Monmouthshire
- Torfaen
- Newport East
- Blaenau Gwent and Rhymney
Fodd bynnag, mae newidiadau wedi’u gwneud i’r 11 etholaeth arall yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd drwy gydol y broses adolygu:
Newid Enw
Merthyr Tydfil and Upper Cynon yn dod yn Merthyr Tydfil and Aberdare
Erys y Daearyddiaeth yr un fath, fodd bynnag mae'r Comisiwn wedi argymell newid enw i Ferthyr Tudful ac Aberdâr fel y cynigiwyd yn y cynigion cychwynnol. Teimlai’r Comisiwn fod yr enw’n fwy adnabyddadwy a’i fod yn ymwneud â’r 2 brif anheddiad yn yr etholaeth a argymhellir.
Newid Ffiniau
Dwyfor Meirionnydd / Montgomeryshire and Glyndwr
Mae wardiau etholiadol Corwen a Llandrillo wedi eu cynnwys yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd (Montgomeryshire and Glyndwr yn y Cynigion Diwygiedig). Derbyniodd y Comisiwn gynrychiolaethau a oedd yn nodi bod gan y wardiau etholiadol gysylltiadau mwy lleol â Dwyfor Meirionnydd a bod ganddynt well cysylltiadau ffordd â’r etholaeth honno. Mae'r etholaeth newydd hefyd yn parchu sir hanesyddol Sir Feirionnydd. Roedd y Comisiwn yn gallu cynnwys y wardiau hyn tra'n cynnal Cwota Etholiadol y DU ac felly nid oedd unrhyw effaith ar etholaethau eraill.
Caerphilly/Newport West and Islwyn
Gwnaeth y Comisiwn newidiadau sylweddol yn y maes hwn yn ystod ei gynigion diwygiedig mewn ymateb i’r cynrychiolaethau a ddywedodd na ddylid cyfuno Newport West a Caerphilly. Yn dilyn cyhoeddi'r cynigion diwygiedig, cafodd y Comisiwn wrthwynebiad i'r cynnig diwygiedig i gyfuno Newport West ag Islwyn. Fodd bynnag, cafodd y Comisiwn gefnogaeth sylweddol i etholaeth arfaethedig Caerphilly.
Gwnaeth y Comisiwn rai mân newidiadau i'r wardiau etholiadol a ddefnyddiwyd ganddo i ffurfio'r etholaethau arfaethedig mewn ymateb i'r cynrychiolaethau a gafodd. Mae Cefn Fforest bellach wedi’i gynnwys yn etholaeth argymelledig Newport West and Islwyn er mwyn cyfuno Cefn Fforest a’r Coed Duon yn yr un etholaeth. Er mwyn cynnal cwota etholiadol y DU felly trosglwyddir ward etholiadol Ynysddu i etholaeth Caerphilly a argymhellir. Mae gan ward Ynysddu gysylltiadau ffordd da ag etholaeth Caerphilly a argymhellir ac mae'n rhannu cysylltiadau lleol o fewn yr un awdurdod lleol.
Bridgend, Rhondda ac Aberafan
Derbyniodd y Comisiwn wrthwynebiad i gynnwys Tref Pencoed yn etholaeth Rhondda yn ystod y cam cynigion diwygiedig. Fel rhan o'i argymhellion terfynol, mae'r Comisiwn wedi cynnwys Tref Pencoed yn etholaeth argymelledig Bridgend.
Derbyniodd y Comisiwn wrthwynebiad i gynnwys Tref Porthcawl yn etholaeth Aberafan Porthcawl yn y cam cynigion diwygiedig. Fel rhan o'i argymhellion terfynol, mae'r Comisiwn wedi cynnwys Tref Porthcawl yn etholaeth argymelledig Bridgend.
Neath ac Abertawe
Derbyniodd y Comisiwn wrthwynebiad i gynnwys Tref Sgiwen yn etholaeth arfaethedig Aberafan Porthcawl ac roedd y cynrychiolaethau’n nodi y dylai Sgiwen gael ei chynnwys yn etholaeth Neath. Er mwyn cynnwys Sgiwen yn etholaeth argymelledig Neath a Swansea East, mae'r Comisiwn wedi gorfod gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r trefniadau yn ardal Castell-nedd ac Abertawe.
Fel rhan o'i argymhellion terfynol mae'r Comisiwn wedi cynnig 3 etholaeth yn ardal Castell-nedd ac Abertawe, sef Neath and Swansea East, Swansea West, a Gower. Mae'r Comisiwn wedi cynnwys ward etholiadol Glandŵr yn etholaeth Swansea West a Sgiwen yn etholaeth Neath a Swansea East.
Mae etholaeth Gower a argymhellir yn cynnwys pob un ac eithrio un o’r wardiau etholiadol sy’n ffurfio etholaeth bresennol Gower ynghyd â 5 ward o etholaeth bresennol Swansea West, mae’r etholaeth hon i gyd o fewn ardal Awdurdod Lleol Abertawe. Mae etholaeth argymelledig Swansea West yn cael ei ffurfio gan weddill etholaeth bresennol Swansea West a rhannau o etholaeth bresennol Swansea East eto i gyd o fewn ardal Awdurdod Lleol Abertawe. Mae etholaeth argymelledig Neath a Swansea East yn cyfuno Tref Sgiwen â mwyafrif etholaeth bresennol Neath a gweddill etholaeth Swansea East.
Cafodd y Comisiwn y dasg o ystyried ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd etholaeth; ffiniau llywodraeth leol a oedd yn bodoli neu a oedd yn bosibl ar 1 Rhagfyr 2020; ffiniau etholaethau presennol; unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu torri gan newidiadau mewn etholaethau; a'r anghyfleustra sy'n gysylltiedig â newidiadau o'r fath wrth ddatblygu ei argymhellion.
Nid oedd y Comisiwn yn gallu ystyried canlyniadau etholiad yn y dyfodol na'r effaith y byddai newidiadau yn ei chael ar unrhyw bleidiau gwleidyddol wrth ddatblygu ei argymhellion.
Yr etholaeth fwyaf a argymhellir gan y Comisiwn yn ddaearyddol yw Dwyfor Meirionnydd, sef 2,613Km2, a Cardiff East yw'r lleiaf (33km2).
O ran etholwyr, yr etholaeth fwyaf yw Mid and South Pembrokeshire (76,820 o etholwyr) a'r lleiaf yw Ynys Môn (52,415 o etholwyr).
Nid oes unrhyw wardiau etholiadol na Chymunedau wedi'u rhannu gan y Comisiwn yn ei Argymhelliad Terfynol.
Wrth wneud sylwadau ar osod yr adroddiad Argymhellion Terfynol, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ DL, Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru:
“Mae’r Comisiwn wrth ei fodd bod ei adroddiad Argymhellion Terfynol wedi’i osod gan y Llefarydd.
“Rydym yn credu’n gryf mai’r argymhellion hyn yw’r ffordd orau o greu 32 etholaeth yng Nghymru sy’n bodloni gofynion y Ddeddf, gan gynnwys ystyried daearyddiaeth a chysylltiadau lleol.
“Er nad yw rheoli gostyngiad sylweddol yn nifer yr etholaethau byth yn dasg hawdd i Gomisiwn Ffiniau, mae wedi bod yn llawer haws diolch i nifer ac ansawdd y cynrychiolaethau a gawsom gan y cyhoedd, gan Aelodau Seneddol, gan Bleidiau Gwleidyddol, a chan Brif Gynghorau ledled Cymru.
“Hoffai’r Comisiwn gofnodi ei ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr Arolwg a chryfhau’r argymhellion.”
Bydd Argymhellion Terfynol y Comisiwn nawr yn dod i rym yn awtomatig, heb fod angen cymeradwyaeth seneddol na llywodraeth, o’r Etholiad Cyffredinol nesaf a drefnwyd ymlaen.