Arolwg Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol

28/06/23
Arolwg 2023

Dechreuodd y Comisiwn Arolwg 2023 o Etholaethau Seneddol yn 2021 a chyflwynodd ei Argymhellion Terfynol i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin cyn 1 Gorffennaf 2023.

Mae gwaith y Comisiwn yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd) (‘y Ddeddf’). Mae’r Ddeddf yn nodi y dylai ein hadroddiad gael ei gyflwyno i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a bod yn rhaid anfon copïau o’r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet.

Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi’r amserlen ar gyfer ein hadroddiad, ac yn nodi bod yn rhaid i’r Comisiwn gyflwyno’r adroddiad terfynol mewn perthynas â’r arolwg presennol o ffiniau cyn 1 Gorffennaf 2023.

Mae’n mynd ymlaen i nodi ‘Ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i’r Llefarydd ei osod gerbron y Senedd.’

Mae disgwyliad confensiynol mai'r Senedd fydd y gynulleidfa gyntaf mewn adroddiadau statudol sydd i'w gosod gerbron y Senedd. Felly ni chyhoeddodd y Comisiwn ein Hargymhellion Terfynol ar yr un pryd ag y gwnaethom gyflwyno ein hadroddiad.

Nawr bod yr adroddiad wedi'i osod gerbron y Senedd, mae'r Comisiwn hefyd yn ei gyhoeddi ar ei wefan ei hun.

Ni fyddwn yn dosbarthu copïau caled o'r adroddiad a'r mapiau ond byddant ar gael i'w llwytho i lawr, a bydd ein ffiniau argymelledig yn cael eu troshaenu ar y map rhyngweithiol ar ein porth ymgynghori.

Gallwch weld yr adroddiad Argymhellion Terfynol isod, ynghyd â dogfennau perthnasol eraill.

Bydd Argymhellion Terfynol y Comisiwn yn dod i rym yn awtomatig o'r Etholiad Cyffredinol nesaf a drefnwyd.

Mae'r ffiniau etholaethol newydd a ddangosir yma yn amodol ar gadarnhad gan yr Arolwg Ordnans. Gall y ffiniau terfynol fod â gwahaniaethau bach.

Gallwch ddod o hyd i'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y Comisiwn yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Diwygiedig yma.

Gallwch weld yr Argymhellion ar Borth Ymgynghori'r Comisiwn yma.