Cynigion Diwygiedig wedi eu cyhoeddi yn Arolwg Ffiniau Cymru

Ymgynghoriad terfynol yn agor ar etholaethau newydd Cymru

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru heddiw wedi cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig ar gyfer y map newydd o etholaethau Seneddol a ddaw i rym yn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf.

Yn ogystal â chyhoeddi ei gynigion, mae’r Comisiwn wedi agor cyfnod ymgynghori 4 wythnos lle gall y cyhoedd rannu eu barn ar yr etholaethau arfaethedig.

O dan reolau a nodir yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd) rhaid i bob etholaeth a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Yr unig eithriad i’r rheol hon yw Ynys Môn sy’n etholaeth warchodedig, ac felly nid yw’n gweld unrhyw newidiadau i’w henw, ei dynodiad na’i ffiniau a awgrymir yn y cynigion hyn.

Mae’r Cynigion Diwygiedig yn gweld newidiadau i’r mwyafrif o etholaethau a gynigiwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn ym mis Medi 2021, a chynigir newidiadau i bob etholaeth bresennol.

Crëwyd y cynigion sydd newydd eu cyhoeddi yn dilyn dau ymgynghoriad ar wahân a 5 Gwrandawiad Cyhoeddus ers cyhoeddi Cynigion Cychwynnol y Comisiwn.

Mae Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r Cynigion Diwygiedig. Roedd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn gyfrifol am reoli Gwrandawiadau Cyhoeddus y Comisiwn a dadansoddi cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y Comisiwn cyn adrodd yn ôl i’r Comisiwn gyda’u hargymhellion eu hunain.

Ystyriodd y Comisiwn sawl ffactor wrth ddatblygu ei gynigion, yn ogystal â’r ystod statudol o etholwyr.

Roedd daearyddiaeth (fel llynnoedd, afonydd, a mynyddoedd) yn ystyriaeth bwysig, yn ogystal â ffiniau presennol megis ffiniau awdurdodau lleol a wardiau. Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis rhannu hanes a diwylliant wrth iddo ddatblygu ei gynigion cychwynnol.

Mae'r Comisiwn bellach yn gwahodd sylwadau ar ei gynigion wrth iddo lansio ei gyfnod ymgynghori 4 wythnos olaf. Anogir aelodau'r cyhoedd i anfon eu barn, p'un a ydynt yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cynigion.

Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi datgan nad oes ganddo bŵer i bennu nifer yr ASau, a benderfynwyd gan y Senedd, ac ni fydd yn gallu ystyried dadleuon ynghylch nifer yr etholaethau yng Nghymru.

Mae porth ymgynghori ar-lein yn cffg-arolygon.org.uk yn cynnwys y cynigion yn llawn, a gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno eu barn yn uniongyrchol drwy'r porth.

Gall pobl hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy anfon e-bost at cffg@ffiniau.cymru neu ysgrifennu at Y Comisiwn yn y post i Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Wrth ysgrifennu yn y rhagair i adroddiad y Cynigion Diwygiedig, dywedodd Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Mrs Ustus Jefford DBE:

“Derbyniodd y Comisiwn 1,367 o gynrychiolaethau ysgrifenedig ac 81 o gynrychiolaethau llafar ar y cynigion cychwynnol.

Cynhaliwyd gwrandawiadau cyhoeddus ledled Cymru er mwyn galluogi aelodau’r cyhoedd i fynegi’u barnau ar y cynigion cychwynnol, ac i awgrymu sut gellid eu diwygio a’u gwella.

Mae’r Comisiwn yn hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu. O ganlyniad, mae’r

Comisiwn wedi diwygio’r cynigion cychwynnol.

Mae wedi cynnig newidiadau, sy’n newidiadau sylweddol yn aml, i 22 o’r 32 o etholaethau arfaethedig. Mae hefyd wedi cynnig enwau gwahanol ar gyfer 9 o’r etholaethau.

Mae cyfle nawr i wneud cynrychiolaethau ar y cynigion diwygiedig hyn cyn bod y Comisiwn yn llunio’i adroddiad terfynol ar etholaethau Seneddol arfaethedig yng Nghymru.”

Wrth wneud sylw ar gyhoeddi’r cynigion Diwygiedig, dywedodd ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynigion hyn heddiw.

“Pan gyhoeddodd y Comisiwn y Cynigion Cychwynnol ym mis Medi 2021, fe wnaethom ofyn am gymorth y cyhoedd i gryfhau’r map newydd o etholaethau Cymru.

“Diolch i’r nifer uchaf erioed o ymatebion rydym wedi’u derbyn, rydym wedi gwneud newidiadau, mewn rhai achosion newidiadau sylweddol, i’r cynigion cychwynnol hynny.

“Mae un cyfle arall nawr i effeithio ar y map newydd o etholaethau Cymru, yn ystod ein cyfnod ymgynghori 4 wythnos olaf.

“Byddwn yn annog pawb, waeth beth fo’ch barn ar y cynigion, i roi gwybod i’r Comisiwn.”

Mae’r Trydydd Cyfnod Ymgynghori yn agor ar 19 Hydref 2022 ac yn cau ar 15 Tachwedd 2022.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y Comisiwn yn asesu’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd ac yn cyflwyno ei Argymhellion Terfynol i’r Senedd ym mis Gorffennaf 2023.

Bydd yr Argymhellion Terfynol yn dod i rym yn awtomatig yn yr Etholiad Cyffredinol arferol nesaf.

Cliciwch yma er mwyn gweld y cynigion.