Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Comisiwn Ffiniau y Comisiwn Ffiniau i Gymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://comffin-cymru.gov.uk/

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu ei defnyddio. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Cysylltwch â’r: Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Anfonwch neges e-bost at: ymholiadau@ffiniau.cymru
Ffoniwch: 02920 464819

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 20 niwrnod gwaith 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. 
Os deuwch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn credu ein bod yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost at ymholiadau@ffiniau.cymru at sylw’r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Rhowch sgrin luniau o unrhyw broblemau yn eich neges os oes modd.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). 
Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.


Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27/5/21. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 27/5/21.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12/5/21. Cynhaliwyd y prawf gan y Swyddfa Digidol a Data Ganolog.
Y dull a ddefnyddiom i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi oedd: cymysgedd o wiriadau â llaw a phrofion awtomataidd gan ddefnyddio axe.