Adroddiad i'w osod gerbron y Senedd gan y Llefarydd
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyflwyno adroddiad Argymhellion Terfynol Adolygiad 2023 o Etholaethau Seneddol i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Bydd y Llefarydd yn gosod yr adroddiad gerbron y Senedd maes o law ac yna bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar ei wefan a’i borth.
Dechreuodd y Comisiwn Adolygiad 2023 o Etholaethau Seneddol yn 2021 ac roedd yn ofynnol iddo gyflwyno ei argymhellion terfynol i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin erbyn 1 Gorffennaf eleni.
Mae gwaith y Comisiwn yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd) (‘y Ddeddf’). Mae’r Ddeddf yn nodi y dylai ein hadroddiad gael ei gyflwyno i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a bod yn rhaid anfon copïau o’r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi’r amserlen ar gyfer ein hadroddiad, ac yn nodi bod yn rhaid i’r Comisiwn gyflwyno’r adroddiad terfynol mewn perthynas â’r adolygiad presennol o ffiniau cyn 1 Gorffennaf 2023.
Wrth wneud sylwadau ar gyflwyniad yr adroddiad, dywedodd Shereen Williams MBE OstJ DL, Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru:
“Mae’r Comisiwn yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad Argymhellion Terfynol yn cael ei gyflwyno, sy’n cael ei ddylanwadu’n gryf gan y miloedd o gynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y cyhoedd a’n rhanddeiliaid.
“Hoffem ddiolch i Aelodau Seneddol Cymru, y Prif Gynghorau a’r Pleidiau Gwleidyddol am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â’r broses.
“Fodd bynnag, mae ein diolch mwyaf i’r aelodau o’r cyhoedd a ofynnodd gwestiynau, a gyflwynodd eu barn, ac a helpodd i lunio etholaethau seneddol newydd Cymru.
Bydd y Comisiwn yn gwneud sylwadau pellach ar osod yr adroddiad.