Ail Ymgynghoriad Ffiniau i Agor

Comisiwn Ffiniau i Gymru i gynnal 5 Gwrandawiad Cyhoeddus yn ystod yr Ail Gyfnod Ymgynghori

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn agor ei Gyfnod Ymgynghori Eilaidd ddydd Iau 17 Chwefror, gan roi cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau pellach ar ei gynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau seneddol arfaethedig Cymru.

Anfonwyd y nifer uchaf erioed o ymatebion i’r Comisiwn yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol, a oedd ar agor rhwng Medi a Thachwedd 2021, gan bron i dreblu’r swm a dderbyniwyd yn ystod yr Arolwg blaenorol.

Anogir ymatebwyr i ddarllen a rhoi sylwadau ar gynrychiolaethau a anfonwyd at y Comisiwn yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol, gan gyfoethogi'r ddadl ar sylwadau a dderbyniwyd eisoes gan y Comisiwn.

Gellir anfon ymatebion yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd ar-lein drwy borth ymgynghori’r Comisiwn (cffg-arolygon.org.uk), eu hanfon drwy e-bost at cffg@ffiniau.cymru, neu eu hanfon yn y post at y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Nid yw’r Comisiwn yn gallu effeithio ar nifer yr etholaethau yng Nghymru, na’r amrywiad a ganiateir (+/-5% o’r cwota etholiadol) ac mae’n annog ymatebwyr i gynnig sylwadau ar gynrychiolaethau a dderbyniwyd eisoes yn hytrach na gwneud cynrychiolaethau ar y rheolau sy’n llywodraethu’r Arolwg.

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 17 Chwefror ac yn cau ar 30 Mawrth, ar ôl cael ei ohirio’n flaenorol mewn ymateb i’r heriau iechyd cyhoeddus a ddeilliwyd o’r amrywiad Omicron.

Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cynnal 5 Gwrandawiad Cyhoeddus ledled Cymru. Cynhelir y rhain yng Nghaerdydd (17 Chwefror), Wrecsam (23 Chwefror), Abertawe (1 Mawrth), Bangor (9 Mawrth), ac Aberystwyth (30 Mawrth).

Anogir y rhai sy’n dymuno cyflwyno sylwadau’n gyhoeddus yn ystod y Gwrandawiadau Cyhoeddus i e-bostio’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cffg@ffiniau.cymru  i archebu slot siarad 10 munud.

Rhaid bod yn bresennol yn y Gwrandawiad er mwyn rhannu tystiolaeth, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd arsylwi’r trafodion drwy gydol yr amser.

Bydd y Gwrandawiadau Cyhoeddus hefyd yn cael eu ffrydio’n fyw, a bydd manylion ar sut i gael mynediad at y ffrydiau byw ar gael ar wefan y Comisiwn.

Bydd y dystiolaeth a roddir yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd yn cael ei hystyried gan banel o Gomisiynwyr Cynorthwyol y Comisiwn, Andrew Clemes, Dr Gwenllian Lansdown Davies, Steven Phillips, a Dr Arun Midha.

Dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, “Rydym yn falch iawn o allu agor y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd a chymryd tystiolaeth wyneb yn wyneb.

“I lawer, cyfarfod wyneb yn wyneb a datgan eu barn ar lafar yw’r ffordd orau o rannu eu syniadau felly mae gallu cychwyn ein Gwrandawiadau Cyhoeddus ar ôl misoedd o ansicrwydd oherwydd Covid yn gyffrous iawn.

“Roedd yr ymatebion a gawsom yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol yn graff ac yn addysgiadol iawn i’r Comisiwn, felly rydym yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o’r un peth, a fydd yn cael effaith fawr wrth i ni ddatblygu ein Cynigion Diwygiedig ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru yn ddiweddarach eleni.

“Dylai’r sylwadau a wneir yn ystod yr ymgynghoriad hwn ganolbwyntio ar y cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol er mwyn i’r Comisiwn allu datblygu gwerthfawrogiad ehangach o safbwyntiau ar y cynigion mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru.”

Ar ôl i’r Cyfnod Ymgynghori Eilaidd ddod i ben, bydd y Comisiwn yn archwilio’r holl dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyntaf a’r ail gyfnod ymgynghori ac yn datblygu cynigion diwygiedig a fydd yn cael eu cyhoeddi yn hydref 2022.

 

 

 

 

  •