Etholiad Cyffredinol 2024

23/05/24
Corfforaethol

Mae etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024.

Etholaethau

Dyma’r etholiad cyffredinol cyntaf lle bydd aelodau seneddol yn cael eu hethol i’r etholaethau a argymhellwyd gan Arolwg 2023 y Comisiwn o etholaethau seneddol.

Gallwch ddod o hyd i Argymhellion Terfynol y Comisiwn, delweddau o fapiau, a ffeiliau siâp, trwy glicio yma.

Gwybodaeth Hawlfraint

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn rhoi caniatâd i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn yr etholiad cyffredinol ddefnyddio mapiau a deunyddiau eraill a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn eu deunyddiau ymgyrchu. Mae hyn er mwyn cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r etholaethau seneddol newydd a ddefnyddir yn yr etholiad hwn.

Lle bynnag y defnyddir map neu ddeunydd arall a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, dylid rhoi credyd priodol, e.e. "Map gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru".

Nid yw'r Comisiwn yn cydsynio i'w fapiau neu ddeunyddiau eraill gael eu golygu.

Mae rhagor o wybodaeth am Hawlfraint y Goron ar gael drwy glicio yma.

Y Wasg a'r Cyfryngau

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn rhoi caniatâd i'r wasg a'r cyfryngau ddefnyddio mapiau a deunyddiau eraill a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn eu darllediadau etholiad.

Lle bynnag y defnyddir map neu ddeunydd arall a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, dylid rhoi credyd priodol, e.e. "Map gan Gomisiwn Ffiniau i Gymru".

Nid yw'r Comisiwn yn cydsynio i'w fapiau neu ddeunyddiau eraill gael eu golygu.

Mae rhagor o wybodaeth am Hawlfraint y Goron ar gael drwy glicio yma.

Cwestiynau

Mae aelodau ysgrifenyddiaeth y Comisiwn ar gael i ateb ymholiadau ar yr etholaethau newydd. Anfonwch e-bost at ymholiadau@ffiniau.cymru neu ffoniwch 02920 464819.

Mwy o wybodaeth

Nid yw’r Comisiwn yn chwarae unrhyw ran mewn etholiadau cyffredinol ac ni all ddarparu gwybodaeth heblaw’r wybodaeth sy’n berthnasol i Adolygiad 2023 o etholaethau seneddol. I gael rhagor o wybodaeth am yr etholiad cyffredinol, rydym yn argymell ymweld â gwefan y Comisiwn Etholiadol, neu wefan eich awdurdod lleol.