Canllaw i'r Gwrandawiadau Cyhoeddus

05/11/21
Arolwg 2023

Yn sgil yr heriau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud a'r amrywiad Omicron, mae'r Gwrandawiadau Cyhoeddus wedi eu gohirio. Mae'r dyddiadau newydd wedi eu cyhoeddi isod.

Mi fydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cynnal 5 Gwrandawiad Cyhoeddus yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd (11 Ionawr tan 21 Chwefror).

Mae'r Gwrandawiadau Cyhoeddus yn gyfle i'r cyhoedd a rhanddeiliaid i rannu tystiolaeth ar lafar i'r Comisiwn ar y Cynigion Cychwynnol ac ar y cynrychiolaethau a'u derbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol.

Mae manylion llawn ar y Gwrandawiadau Cyhoeddus ar gael yn y Canllaw i'r Gwrandawiadau Cyhoeddus isod.

Mae lleoliadau a dyddiadau'r Gwrandawiadau Cyhoeddus fel a ganlyn:

Lleoliad

Dyddiad

Mercure Holland House, Caerdydd CF24 0DD

17 Chwefror

Ramada Plaza, Wrecsam LL13 7YH

23 Chwefror

Grand Hotel, Abertawe SA1 1NX

1 Mawrth

Canolfan Rheolaeth, Bangor LL57 2DG

9 Mawrth

Gwesty’r Marine, Aberystwyth SY23 2DA

30 Mawrth

Er mwyn hawlio slot siarad 10-munud mewn Gwrandawiad Cyhoeddus, e-bostiwch cffg@ffiniau.cymru gyda'r pwnc "Gwrandawiadau Cyhoeddus".

Nodwch yn eich e-bost ym mha Wrandawiad Cyhoeddus hoffech siarad ynddi, ac os hoffech slot bore, prynhawn, neu hwyr.*

*Nodwch os gwelwch yn dda na gall y Comisiwn sicrhau slot ar yr amser, neu yn y lleoliad hoffech ac mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi i ddewis slot amgen neu rannu'ch tystiolaeth yn ysgrifenedig. Ni fydd slotiau bore ar gael yng Ngwrandawiadau Aberystwyth na Chaerdydd.
Lawrlwytho Dogfen