Cwestiynau Cyffredin

12/04/21
Arolwg 2023

Cwestiynau Cyffredin am Arolwg 2023

Pam rydych chi’n cynnal arolwg o etholaethau Seneddol?

Rydym ni’n gyfrifol am gynnal arolwg o ffiniau etholaethau Seneddol yng Nghymru ar sail rheolau a osodwyd gan y Senedd. Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad ffurfiol erbyn 1 Gorffennaf 2023 ar sail rheolau a amlinellir yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Etholaethau Seneddol 2020).

Pam mae nifer yr Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Cymru yn cael ei lleihau?

Mae’r Ddeddf yn datgan y bydd nifer benodedig o 650 o etholaethau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu fformiwla fathemategol i bennu faint o etholaethau y dylid eu dyrannu i bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Yn unol â’r fformiwla honno, mae 32 o etholaethau wedi’u dyrannu i Gymru o dan y Ddeddf. Mae’n rhaid i etholaethau Cymru fod yn gyfan gwbl o fewn Cymru, ac ni allant gynnwys ardaloedd rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

Sut cafwyd y ffigur etholaeth gyfartalog? Pa feini prawf a ddefnyddioch chi?

Mae’r Ddeddf yn gosod y rheolau i’r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal arolwg o ffiniau etholaethau Seneddol. Nid y Comisiwn ei hun a wnaeth y penderfyniadau hyn. Cafwyd y ffigur ar gyfer nifer yr etholaethau yng Nghymru trwy gymhwyso fformiwla a bennir yn y ddeddfwriaeth. Gweler ein Canllaw i Arolwg 2023 i gael rhagor o fanylion. 

Pam mae Ynys Môn yn eithriad i’r cwota etholiadol?

Mae pum eithriad o ‘Reol 2’ y Ddeddf, sy’n gosod y paramedrau ar gyfer maint etholaethau ledled y Deyrnas Unedig. Y rhain yw dwy etholaeth ar Ynys Wyth yn Lloegr, Ynysoedd Orkney a Shetland a Na h-Eileanan an Iar yn yr Alban, ac Ynys Môn yng Nghymru.

Beth yw’r Comisiwn / beth yw swyddogaeth y Comisiwn?

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff cyhoeddus anadrannol annibynnol a diduedd sy’n gyfrifol am gynnal arolygon o ffiniau etholaethau Seneddol yng Nghymru a gwneud argymhellion ar gyfer newid i’r Senedd.

Pwy yw’r Comisiynwyr?

Dewiswyd y Comisiynwyr trwy gystadleuaeth gyhoeddus agored.

  • Dirprwy Gadeirydd: Mrs Ustus Jefford DBE
  • Aelodau’r Comisiwn: Mr Huw Vaughan Thomas CBE a Mr Sam A Hartley

Mae’r Dirprwy Gadeirydd, sy’n llywyddu cyfarfodydd y Comisiwn, yn farnwr yr Uchel Lys a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor. Penodir y ddau aelod arall ar y cyd gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet.

Sut bydd etholaethau Seneddol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu niferoedd newidiol o etholwyr mewn gwahanol ardaloedd?

Ar gyfer ei Arolwg 2023, roedd yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried nifer yr etholwyr cofrestredig ar 02 Mawrth 2020.

Pam rydych chi wedi defnyddio data’r gofrestr etholiadol ac nid data’r boblogaeth? A yw nifer yr etholwyr cofrestredig yn ddibynadwy?

Yn ôl y Ddeddf, mae’n ofynnol i’r Comisiwn weithio ar sail nifer yr etholwyr ar y cofrestrau etholiadol ar ‘ddyddiad yr arolwg’.

Nid yw’r Comisiwn yn berchen ar gofrestrau etholiadol nac yn eu coladu – awdurdodau lleol sy’n gyfrifol amdanynt. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod y Comisiwn yn defnyddio’r ffigurau a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), felly nid yw’r Comisiwn yn gallu ystyried urnhyw dangofrestru neu orgofrestru etholwyr a allai gael ei honni mewn rhai ardaloedd.

Pryd byddwch chi’n cyhoeddi eich cynigion cychwynnol?

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ym mis Medi eleni.

Pa feini prawf byddwch chi’n eu defnyddio?

(Yn unol â’r Ddeddf) caiff Comisiwn ystyried:

  • ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd etholaeth;
  • ffiniau llywodraeth leol a oedd yn bodoli neu yn yr arfaeth ar 1 Rhagfyr 2020;
  • ffiniau etholaethau presennol;
  • unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan newidiadau i etholaethau; ac
  • yr anghyfleustra sy’n gysylltiedig â newidiadau o’r fath.

Cyn belled ag y bo’n bosibl, mae’r Comisiwn yn ceisio creu etholaethau yng Nghymru:

  • O wardiau etholiadol sy’n agos i’w gilydd; ac
  • Nad ydynt yn cynnwys ‘rhannau datgysylltiedig’, h.y. lle y byddai’r unig gysylltiad ffisegol rhwng un rhan o’r etholaeth a’r gweddill ohoni yn golygu y byddai’n rhaid teithio trwy etholaeth wahanol.

Sut mae’r cynigion yn gysylltiedig ag etholaethau Senedd Cymru?

Mae’r Cynigion yn berthnasol i etholaethau Senedd San Steffan yn unig. Diddymodd Deddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 y cysylltiad rhwng y ddwy set o etholaethau. Mae unrhyw gynnig i greu dull o arolygu etholaethau Senedd Cymru yn un o gyfrifoldebau datganoledig Senedd Cymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd adroddiad ym mis Medi 2020 y gellir ei weld trwy ddilyn y ddolen hon Diwygio’r Senedd: y camau nesaf.

Sut mae’r Cynigion yn berthnasol i weithgarwch Llywodraeth Leol?

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC) yn endid ar wahân i’r Comisiwn. Nid oes cydberthynas rhwng Arolwg 2023 a rhaglen waith CFfDLC.

A fydd y newidiadau’n effeithio ar fy nghod post?

Na fyddant. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar godau post na’r ffordd o’u dyrannu.

A fydd hyn yn effeithio ar fy nhreth gyngor?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar y dreth gyngor na’r ffordd o’i dyrannu. Yr awdurdod lleol perthnasol sy’n gosod y dreth gyngor.

A fydd hyn yn effeithio ar fy nalgylch ysgol?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar ddalgylchoedd ysgolion. awdurdodau lleol neu ysgolion unigol sy’n penderfynu ar ddalgylchoedd.

A fydd hyn yn effeithio ar fy awdurdod lleol?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar ddyluniad awdurdodau lleol yng Nghymru, na’u ffiniau. Mewn gwirionedd, mae ffiniau awdurdodau lleol presennol yn ffactor y mae’r Comisiwn yn ei ddefnyddio wrth ddylunio etholaethau, lle y bo’n bosibl.

A fydd hyn yn effeithio ar fy nghyngor cymuned/tref?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar ddyluniad cynghorau cymuned neu dref yng Nghymru, na’u ffiniau. Mewn gwirionedd, polisi’r Comisiwn yw peidio â hollti unrhyw gynghorau cymuned neu dref yn rhan o’r arolwg hwn.

A fydd hyn yn effeithio ar werth fy nhŷ?

Na fydd. Mae gwerth eich eiddo’n cael ei bennu gan liaws o ffactorau. Nid oes tystiolaeth bod yr etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar werth eich eiddo.

A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth iechyd a ddarperir i mi?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd.

A fydd hyn yn effeithio ar fy amwynderau cymunedol?

Na fydd. Nid yw’r etholaeth rydych yn byw ynddi yn effeithio ar eich amwynderau cymunedol.