Nifer mwyaf erioed o ymatebion yn cael eu cyhoeddi
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ar etholaethau seneddol arfaethedig Cymru.
Derbyniodd y Comisiwn y nifer uchaf erioed (1211) o sylwadau yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol, tua 3 gwaith y nifer a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyfatebol yn yr arolwg diwethaf (2018).
Agorodd yr ymgynghoriad ar 8 Medi 2021 a daeth i ben ar 3 Tachwedd 2021 gydag ymatebwyr yn gallu cyfrannu trwy borth ymgynghori ar-lein, trwy e-bost, neu yn y post.
Roedd llawer o ymatebwyr yn gwrthwynebu'r cynigion, gyda llawer yn gwneud sylwadau ar y gostyngiad yn nifer yr ASau yng Nghymru - nad oes gan y Comisiwn unrhyw reolaeth drostynt.
Fodd bynnag, nododd llawer eu bod yn gefnogol i'r cynigion ar gyfer eu hardal.
Derbyniwyd sylwadau o bob etholaeth bresennol yng Nghymru, gyda'r niferoedd uchaf yn dod o etholaethau presennol Arfon, Ceredigion, a Chaerffili.
Cyflwynodd oddeutu 20% o'r ymatebwyr wrth-gynigion, sy'n arbennig o ddefnyddiol wrth i'r Comisiwn ddatblygu ei Gynigion Diwygiedig.
Cyflwynodd 19 o’r 40 Aelod Seneddol Cymru presennol eu barn, ynghyd â 7 o’r 60 Aelod o’r Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Ffiniau i Gymru: “Hoffem achub ar y cyfle hwn unwaith eto i ddiolch i bawb a gyflwynodd eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol.
“Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried y sylwadau rydyn ni wedi'u derbyn, a byddan nhw'n cael effaith fawr wrth i ni ddatblygu ein Cynigion Diwygiedig.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen nawr at ein hail gyfnod ymgynghori, sy'n agor ar 11 Ionawr, lle byddwch chi'n cael cyfle i wneud sylwadau ar yr hyn a anfonwyd i mewn yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol."
Mae ail gyfnod ymgynghori’r Comisiwn yn agor ar 11 Ionawr ac yn para am 6 wythnos ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar yr ymatebion a dderbyniwyd eisoes.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal 5 Gwrandawiad Cyhoeddus yn Aberystwyth (13 Ionawr), Bangor (19 Ionawr), Wrecsam (3 Chwefror), Abertawe (10 Chwefror), a Chaerdydd (17 Chwefror), lle gall y cyhoedd gyflwyno eu barn yn bersonol.
Gofynnir i'r rhai sy'n dymuno siarad yn y Gwrandawiadau Cyhoeddus anfon e-bost at y Comisiwn i cffg@ffiniau.cymru cyn gynted â phosibl i archebu slot.
Dewch o hyd i'r Cynrychiolaethau yma.
Dewch o hyd i'r Canllaw i'r Gwrandawiadau Cyhoeddus yma.