5 digwyddiad yn cael eu gynnal ar draws Cymru er mwyn clywed barn y cyhoedd ar cynigion am etholaethau newydd
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei fod am gynnal 5 gwrandawiad cyhoeddus ledled Cymru er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn ar lafar ar y cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.
Mae'r gwrandawiadau cyhoeddus, a gynhelir ar draws mis Ionawr a mis Chwefror, yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol a welodd dros 1,100 o sylwadau yn cael eu hafnon i'r Comisiwn.
Bydd y gwrandawiadau’n rhan o’r cyfnod ymgynghori eilaidd, lle bydd y cyhoedd yn gallu gwneud sylwadau ar y cynrychiolaethau a dderbyniwyd eisoes yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol yn ogystal â rhoi tystiolaeth lafar ar y cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.
Bydd y gwrandawiadau yn cael eu cynnal fel a ganlyn:
Lleoliad | Dyddiad |
Gwesty'r Marine, Aberystwyth, SY23 2DA | 13 Ionawr 2022 |
Y Ganolfan Rheoli, Prifysgol Bangor, LL57 2DG | 19 Ionawr 2022 |
Ramada Plaza, Wrecsam, LL13 7YH | 03 Chwefror 2022 |
Grand Hotel, Abertawe, SA1 1NX | 10 Chwefror 2022 |
Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd, CF24 0DD | 17 Chwefror 2022 |
Gofynnir i'r cyhoedd archebu slot 10 munud ymlaen llaw ar sail y cyntaf i'r felin trwy e-bostio cffg@ffiniau.cymru.
Bydd y gwrandawiadau cyhoeddus yn cael eu ffrydio'n fyw er y gall y cyhoedd fod yn bresennol yn bersonol i arsylwi’r digwyddiad. Rhaid fod yn bresennol er mwyn rhoi tystiolaeth.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Mae pobl Cymru wedi dangos pa mor ymgysylltiedig ydyn nhw yn y broses hon gyda’r nifer uchaf erioed o ymatebion a anfonwyd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol.
“Rydym yn edrych ymlaen at glywed tystiolaeth ar lafar yn y flwyddyn newydd ac yn annog pobl yn gryf i fanteisio ar y cyfle i rannu eu barn wyneb yn wyneb â’r Comisiwn.
“Mae'r Comisiwn yn debygol o wneud newidiadau sylweddol i'w gynigion yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd yn cael ei dderbyn yn ystod ei gyfnodau ymgynghori felly archebwch slot mewn gwrandawiad a gadewch i ni wybod eich barn.”
Bydd y cyfnod ymgynghori eilaidd yn agor ar 11 Ionawr ac yn cau ar 21 Chwefror.
Mae Canllaw llawn i'r Gwrandawiadau Cyhoeddus ar gael yma.