Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cadarnhau y bydd yn cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig ar 19 Hydref 2022.
Caiff y Cynigion Diwygiedig eu llywio gan y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ac Eilaidd (gan gynnwys Gwrandawiadau Cyhoeddus), ac Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol sydd yn seiliedig ar y sylwadau a dderbyniwyd.
Ar ôl cyhoeddi'r Cynigion Diwygiedig, bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol, Pecyn Partneriaid, a mapiau o'r etholaethau arfaethedig.
Bydd y cyhoeddiad yn sbarduno Cyfnod Ymgynghori 4 wythnos, olaf Arolwg 2023, lle bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael un cyfle arall i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn ar etholaethau seneddol newydd Cymru.
Ar ôl i’r Cyfnod Ymgynghori ddod i ben, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ac yn datblygu ei Argymhellion Terfynol, i’w cyflwyno yn Haf 2023.
Gallwch ddarllen Canllaw’r Comisiwn i’r Arolwg yma.
Gallwch ddarllen y Cwestiynau Cyffredin Arolwg yma.