Comisiwn Ffiniau yn cyhoeddi Comisiynwyr Cynorthwyol

Tîm o 4 i arwain Gwrandawiadau Cyhoeddus

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei banel o Gomisiynwyr Cynorthwyol a fydd yn arwain y Gwrandawiadau Cyhoeddus sydd ar ddod ac yn adrodd yn ôl i Gomisiynwyr Ffiniau Cymru ar y dystiolaeth a dderbyniwyd.

Bydd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn ffurfio’r panel ymhob Wrandawiad Cyhoeddus sydd ar ddod cyn ysgrifennu eu hadroddiad eu hunain ar y cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y Comisiwn. Caiff hynny ei hystyried gan y Comisiynwyr wrth iddynt baratoi eu Cynigion Diwygiedig a fydd yn cael eu cyhoeddi yn hydref 2022.

Y pedwar Comisiynydd Cynorthwyol yw Dr Arun Midha, aelod lleyg ar y Pwyllgor Dethol ar Safonau, Tŷ’r Cyffredin, Steven Phillips, cyn Brif Weithredwr a Swyddog Cofrestru Etholiadol/Swyddog Canlyniadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, ac Andrew Clemes, Barnwr rhan-amser y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn eistedd yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol.

Wrth wneud sylwadau ar benodiad y Comisiynwyr Cynorthwyol, dywedodd Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae’n bleser gan y Comisiwn gyhoeddi’r pedwar person sy’n rhan o’i banel o Gomisiynwyr Cynorthwyol.

“Bydd yr arbenigedd a’r brwdfrydedd a ddaw yn eu sgil i’n tîm o fudd sylweddol i’r Comisiwn wrth inni fwrw ymlaen â’n Harolwg, gan ddechrau gyda’r Gwrandawiadau Cyhoeddus sy’n dechrau ym mis Chwefror.”

Cynhelir y Gwrandawiad Cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd ar 17 Chwefror. Bydd y gwrandawiadau wedyn yn symud i Wrecsam (23 Chwefror), Abertawe (1 Mawrth), Bangor (9 Mawrth), ac Aberystwyth (30 Mawrth).

Cafodd y Gwrandawiadau Cyhoeddus eu gohirio yn flaenorol oherwydd heriau iechyd cyhoeddus yn deillio o'r amrywiad Omicron.

Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno rhoi tystiolaeth yn y Gwrandawiadau Cyhoeddus anfon e-bost at bcw@ffiniau.cymru cyn gynted â phosibl i archebu slot siarad 10 munud.

Mae manylion llawn y Gwrandawiadau Cyhoeddus ar gael yn comffin-cymru.gov.uk/adolygiadau/11-21/canllaw-ir-gwrandawiadau-cyhoeddus.

Bywgraffiadau

Dr Arun Midha

Cafodd Arun ei fagu yn Nhregŵyr a bu’n astudio mewn nifer o Brifysgolion (Abertawe, Caerdydd a Rhydychen), a chwblhaodd Ddoethuriaeth yn y 1990au. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn y sector Prifysgol, gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn gyntaf, ac yna yng Nghaerdydd, mae Arun wedi adeiladu portffolio o rolau fel aelod anweithredol ac aelod lleyg ym meysydd rheoleiddio, safonau, llywodraethu, iechyd ac addysg. Ar hyn o bryd mae’n aelod lleyg ar y Pwyllgor Dethol ar Safonau, Tŷ’r Cyffredin, yn Gadeirydd Annibynnol Adolygiadau Ôl-weithredol o ofal iechyd parhaus yng Nghymru a Lloegr, ac yn aelod o’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae rolau blaenorol wedi cynnwys bod yn aelod o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gwasanaethu fel ei Drysorydd, ac yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Arun wedi gwasanaethu fel Ynad Heddwch ac roedd hefyd yn Uwch Siryf De Morgannwg yn 2012. Yn ogystal, roedd Arun yn Ymddiriedolwr ymddiriedolaeth elusennol rygbi Cymru. Mae’n Llywodraethwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac yn Asesydd Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Mae’n gefnogwr brwd Elusennau Achub y Plant a Street Child United. Mae’n ddeiliad tocyn tymor gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Steven Phillips

Roedd Steven Phillips yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cofrestru Etholiadol/Swyddog Canlyniadau yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot am 11 o flynyddoedd hyd nes iddo ymddeol ar ddiwedd 2020. Cyn hynny, roedd ganddo uwch swyddi yng Nghyngor Sir Caerdydd, Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig cyn datganoli. Yn gynharach yn ei yrfa, bu’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau gyda Llywodraeth y DU yn Llundain, Gogledd Ddwyrain Lloegr a dramor, gan gynnwys polisi masnach, adfywio trefol a rheoleiddio ariannol.

Mae’n byw yng Nghaerdydd ac mae ganddo Radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Dr Gwenllian Lansdown Davies

Daw Dr Gwenllian Lansdown Davies o Fangor yn wreiddiol ond bellach mae’n byw gyda’i gŵr a phedwar o blant yn Llanerfyl, Powys. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a bu’n byw am gyfnod yn Galicia a Brwsel cyn cwblhau MScEcon a Doethuriaeth mewn Theori Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu’n addysgu fel tiwtor gwleidyddiaeth hefyd. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Glan yr Afon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, gweithiodd fel Rheolwr Swyddfa i Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Yn 2011, cafodd ei phenodi yn Swyddog Cyhoeddiadau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle’r oedd yn gyfrifol am ei gyfnodolyn ymchwil, ‘Gwerddon’. Daeth yn Brif Weithredwr y Mudiad Meithrin ym Medi 2014. Mae’r Mudiad Meithrin yn sefydliad gwirfoddol, ac yn brif ddarparwr a galluogwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar yn y sector gwirfoddol, gyda dros 1000 o leoliadau (cylchoedd chwarae / grwpiau rheini a phlant bach cyfrwng Cymraeg / grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd) ledled y wlad. Mae Gwenllian yn Ymddiriedolwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’n gwirfoddoli yn ei Chylch Meithrin lleol ar y pwyllgor.

Andrew Clemes

Mae Andrew Clemes yn Farnwr rhan-amser yn eisteddiadau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol i wrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â budd-daliadau’n gysylltiedig ag anabledd a ffitrwydd i weithio. Mae hefyd yn eistedd fel Barnwr yn y Siambr Mewnfudo a Lloches lle mae’n gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Swyddfa Gartref, a’r Tribiwnlys Digolledu am Anafiadau Troseddol lle mae’n gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol.

Yn ogystal, mae Andrew yn cadeirio pwyllgorau addasrwydd i ymarfer Tribiwnlys yr Ymarferwyr Meddygol, mae’n aelod lleyg ar gyfer pwyllgorau tebyg yn y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac yn Asesydd Cyfreithiol ar gyfer y Cyngor Fferyllol Cenedlaethol. Mae hefyd yn Gadeirydd sydd wedi Ymgymhwyso yn y Gyfraith ar gyfer gwrandawiadau Camymddygiad yr Heddlu yng Nghymru, Dwyrain Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae’n gyn-banelydd lleyg ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae’n Aelod Annibynnol ar gyfer gwrando Cwynion Gwasanaeth ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd Andrew yn Diwtor y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe hyd at 2020, ac roedd yn Fargyfreithiwr yn ymgymryd ag achosion Troseddol hyd at 2001. Cafodd ei alw i’r Bar ym 1984 ac mae’n aelod o Gray’s Inn. Mae’n byw gyda’i deulu yn Abertawe.