Arolwg Seneddol 2023 - Cynigion Cychwynnol

Arolwg Seneddol 2023

Mae’r tudalen hon yn rhoi gwybodaeth cryno ynglun a’r Arolwg Seneddol 2023, gyda doleni i wybodaeth pellach sydd yn berthnasol i bob cam o’r Arolwg.

Mae Canllaw i’r Arolwg y Comisiwn yn darparu gwybodaeth pellach ar broses yr Arolwg.

 

Cynigion Cychwynnol – 8 Medi 2021

Y lle orau i weld mapiau rhyngweithiol o gynigion cychwynnol y Comisiwn, ac i ddanfon eich barn arb eth yr ydym wedi cynnig yw drwy ein porth ymgynghori.

Gwnewch yn siwr eich bod chi’n danfon eich barn ar y cynigion atom cyn dyddiad cau’r cyfnod ymgynghori – sef, 3 Tachwedd 2021.

I weld copi o adroddiad Cynigion Cyhwynnol, gweld mapiau yr Etholaethau sy’n cael ei cynnig neu i lawrlwytho dogfennau sy’n cynnwys y data etholaethol a defnyddir yn yr Arolwg, gwelwch y dolenni isod yn yr adran ‘lawrlwythiadau’ sydd ar waelod y tudalen yma.

Cefndiroedd mapiau a data geogofodol (H) Hawlfraint y Goron a hawliau cronfeydd data [2021] OS [100047875]. Mae defnydd o’r data hwn yn ddibynnol ar thelerau ac amodau.

 

Mannau adneuo

Byddwn yn arddangos copiiau caled o’n Cynigion ar gyfer etholaethau newydd mewn o leiaf un man cyhoeddus yn yr etholaeth arfaethedig. Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o’r mannau adneuo (Dogfen Excel) yn yr adran ‘lawrlwythiadau’ sydd ar walod y tudalen yma. Byddwch yn ymwybodol fod gan rhai mannau cyhoeddus oriau agor cyfyngedig, a gall fod chyfyngiadau trefniadau mynediad mewn lle I atal lledaeniad COVID-19. Bydd unrhywun sydd a ddiddordeb mewn gweld y copiiau caled, yn cael ei cynghori I gysylltu a’r man adneuo yn uniongyrchol (nid drwy CFfC) i gadarnhau’r trefniadau mynediad penodol ar gyfer y man hwnnw.

 

Gwybodaeth Cyffredinol am yr Arolwg Etholaethol 2023

Yn dilyn y paso o’r Ddeddf Etholaethau Seneddol 2020 ym Mis Rhagfyr 2020, a’r cyhoeddiad o’r data etholwyr Seneddol ym Mis Ionawr 2021, fe ddechreuodd y Comisiwn arolwg newydd o holl Etholaethau Seneddol yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at hyn fel ‘Arolwg 2023’ gan bod rhaid iddyn ni adrodd ein argymhellion terfynol erbyn 1 Gorffennaf 2023.

Gan ddefnyddio’r fformiwla statudol i’r ffigyrau etholwyr yn rhoi canlyniad fod y 650 etholaeth yn cael ei rhannu drwy gydol yr arolwg fel a ganlyn:

  • Lloegr = 543 (Yn cynnwys dau etholaeth gwarchodedig ar Ynys Wyth (Isle of Wight).)
  • Yr Alban = 57 (Yn cynnwys dau etholaeth gwarchodedig ar gyfer Ynysoedd Albaneg penodol.)
  • Cymru = 32 (Yn cynnwys un etholaeth gwarchodedig ar Ynys Mon.) a;
  • Gogledd Iwerddon = 18

 

Bydd defnydd y fformiwla statudol yn arwain at ostyngiad o 8 Etholaeth Seneddol ar draws Gymru.

Bydd defnydd o’r rheolau statudol pellach ar yr etholaeth cyhoeddiedig hefyd yn gorfodi i bob etholaeth arfaethedig gael dim yn llai na 69,724 etholwyr Seneddol a nid yn fwy na 77,062 (heblaw am yr etholaethau gwarchodedig a nodir uchod). Yn ol y gyfraith, mae’r ffigyrau etholwyr yn nodi’r etholaeth cofrestredig fel yr oedd ar 2 Mawrth 2020.

 

Beth sy’n digwydd nawr/nesaf?

Ar 8 Medi 2021, cyhoeddodd y Comisiwn ei Cynigion Cychwynnol ar sut gall y 32 etholaeth yng Nghymru cael ei lunio o fewn y paramedrau cyfreithiol nodir uchod. Bydd hwn yn dechrau cyfnod ymgynghori statudol o wyth wythnos (yn cau 3 Tachwedd 2021), lle all unrhywun mynegi eu barn ar y cynigion. Mae gennym ddiddordeb sicr i glywed o bobl am yr ehangder bydd y cynigion yn cynrychioli y perthnasau lleol yn ei hardal, ac os mae pobl yn anghytuno gyda’r cynigion, sut y byddent yn ei amlygu.

Fe fydd yna dwy cyfnod pellach o ymgynghori gyda’r cyhoedd.

 

Cwestiynnau Cyffredin

Mae’r Comisiwn wedi creu dogfen ‘Cwestiynnau Cyffredin” a gall darparu atebion i unrhyw ymholiadau cyffredinol sydd gennych ar y broses Arolwg Etholaethau Seneddol. Gallwch weld y ddogfen hwn yn yr ardal lawrlwythiadau ar waelod y tudalen.

 

Amserlen yr Arolwg

Mae ein amserlen cychwynnol wedi’i chynllunio fel a ganlyn:

  • 5 Ionawr 2021: Cyhoeddiad y data etholaethol gan ONS. CFfG yn dechrau dylunio cynigion cychwynnol.
  • 16 Mawrth 2021: Cyhoeddi dogfen ‘Canllaw i’r Arolwg’.
  • 8 Medi 2021: Cyhoeddi Cynigion Cychwynnol a dechrau cyfnod ymgynghori 8 wythnos.
  • Rhagfyr 2021: Cyhoeddi atebion i’r Cynigion Cychwynnol
  • Ionawr 2022: Cynnal ail gyfnod ymghynghori am chwe wythnos, gan gynnwys gwrandawiadau cyhoeddus ymhob ardal o Gymru.
  • Hwyrach yn 2022: Cyhoeddi Cynigion Diwygiedig a chynnal cyfnod ymgynghori pedwar wythnos.
  • Mehefin 2023: Cyhoeddi a cyflwyno Argymhellion Terfynol.

Gallwch ddarllen fwy am y broses, gyfraith a polisiiau rydym yn gweithio atynt yn yr Arolwg yn ein dogfen Canllaw i’r Arolwg.

Rydyn ni wedi creu pecyn partneriaid, sydd yn cynnwys datganiad i’r wasg, copiiau a graffeg ar gyfer eich gwefannau neu cyfryngau cymdeithasol, dogfen cwestiynnau cyffredin a mwy i’ch helpu chi i gyhoeddi Arolwg Ffiniau 2023. Gallwch weld y pecyn partneriaid yn yr ardal ‘lawrlwythiadau’ ar waelod y tudalen.

Bydd yr holl wybodaeth am yr arolwg yn cael ei gyhoeddi i’r man yma o’r wefan, gyda diweddariadau allweddol a negeseuon hefyd yn cael ei ddarpary drwy ein cyfrif Trydar @BCommWales.

Lawrlwytho Dogfen