Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, sydd yn ymgymryd â’r arolwg o etholaethau seneddol Cymru, wedi cyhoeddi ei Chanllaw i’r Arolwg heddiw (17 Mawrth).
Mae’r Canllaw yn cynnig trosolwg o’r prosesau bydd y Comisiwn yn dilyn wrth ymgymryd â’r arolwg, yn ogystal â’r rheolau bydd yn ystyried wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer etholaethau newydd Cymru.
Yn sgil y newidiadau, mi fydd y nifer o etholaethau yng Nghymru yn disgyn o 40 i 32. Mae Ynys Môn yn etholaeth sydd wedi ei hamddiffyn rhag newid felly ni fydd yn wynebu unrhyw newid i’w ffiniau dan yr arolwg yma.
Yn ôl Canllaw’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, mi fydd y Comisiwn yn ystyried materion megis daearyddiaeth, etholaethau presennol, ffiniau llywodraeth leol, a chysylltiadau lleol wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer etholaethau newydd.
Mae’n rhaid i bob etholaeth cynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr yn seiliedig ar y ffigyrau a darparwyd gan yr ONS ar 5 Ionawr 2021.
Cynhelir tri chyfnod ymgynghori gan y Comisiwn, ar ei hargymhellion gwreiddiol ac argymhellion diwygiedig, ac mi fydd gwrandawiadau cyhoeddus yn ffurfio rhan o’r ail gyfnod ymgynghori. Mi fydd y cyfnod ymgynghori cyntaf yn dechrau yn syth wedi i’r argymhellion gwreiddiol cael eu cyhoeddi ym Medi 2021, a bydd yn para wyth wythnos.
Am y tro cyntaf erioed, mae’r Canllaw i’r Arolwg wedi ei gyhoeddi nid yn unig yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ond hefyd yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae fersiynau Hawdd ei Ddarllen hefyd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, sydd yn golygu mae dyma’r Canllaw fwyaf hygyrch erioed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r Canllaw i’r Arolwg heddiw.
“Rydym yn benderfynol o ddatblygu’r argymhellion gorau posib ar gyfer etholaethau newydd Cymru, a gwyddom mai’r unig ffordd o sicrhau hynny yw denu’r cyfranogiad cyhoeddus mwyaf rydym erioed wedi ei gael.
“Mae ein Canllaw yn gosod yn glir sut byddwn yn datblygu ein hargymhellion, ac yn bwysig, sut gallwch chi chwarae rhan yn y broses.
“Mae hygyrchedd wrth galon beth rydym yn ceisio cyflawni. Mae gan bawb yng Nghymru llais holl bwysig i’w hychwanegu i’r sgwrs am ffiniau etholaethol Cymru, ac rydym am i bawb yng Nghymru cael cyfle i ddatgan eu barn.”
Er mwyn darllen y Canllaw i'r Arolwg, clicia yma.