Comisiwn Ffiniau i Gymru i gynnal Gwrandawiadau Cyhoeddus

5 digwyddiad yn cael eu gynnal ar draws Cymru er mwyn clywed barn y cyhoedd ar cynigion am etholaethau newydd

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei fod am gynnal 5 gwrandawiad cyhoeddus ledled Cymru er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn ar lafar ar y cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.

Mae'r gwrandawiadau cyhoeddus, a gynhelir ar draws mis Ionawr a mis Chwefror, yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol a welodd dros 1,100 o sylwadau yn cael eu hafnon i'r Comisiwn.

Bydd y gwrandawiadau’n rhan o’r cyfnod ymgynghori eilaidd, lle bydd y cyhoedd yn gallu gwneud sylwadau ar y cynrychiolaethau a dderbyniwyd eisoes yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol yn ogystal â rhoi tystiolaeth lafar ar y cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.

Bydd y gwrandawiadau yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

Lleoliad Dyddiad
Gwesty'r Marine, Aberystwyth, SY23 2DA 13 Ionawr 2022
Y Ganolfan Rheoli, Prifysgol Bangor, LL57 2DG 19 Ionawr 2022
Ramada Plaza, Wrecsam, LL13 7YH 03 Chwefror 2022
Grand Hotel, Abertawe, SA1 1NX 10 Chwefror 2022
Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd, CF24 0DD 17 Chwefror 2022

Gofynnir i'r cyhoedd archebu slot 10 munud ymlaen llaw ar sail y cyntaf i'r felin trwy e-bostio cffg@ffiniau.cymru.

Bydd y gwrandawiadau cyhoeddus yn cael eu ffrydio'n fyw er y gall y cyhoedd fod yn bresennol yn bersonol i arsylwi’r digwyddiad. Rhaid fod yn bresennol er mwyn rhoi tystiolaeth.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Mae pobl Cymru wedi dangos pa mor ymgysylltiedig ydyn nhw yn y broses hon gyda’r nifer uchaf erioed o ymatebion a anfonwyd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed tystiolaeth ar lafar yn y flwyddyn newydd ac yn annog pobl yn gryf i fanteisio ar y cyfle i rannu eu barn wyneb yn wyneb â’r Comisiwn.

“Mae'r Comisiwn yn debygol o wneud newidiadau sylweddol i'w gynigion yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd yn cael ei dderbyn yn ystod ei gyfnodau ymgynghori felly archebwch slot mewn gwrandawiad a gadewch i ni wybod eich barn.”

Bydd y cyfnod ymgynghori eilaidd yn agor ar 11 Ionawr ac yn cau ar 21 Chwefror.

Mae Canllaw llawn i'r Gwrandawiadau Cyhoeddus ar gael yma.