Y Bil Etholaethau Seneddol yn derbyn Cydsyniad Brenhinol

Derbyniodd y Bil Etholaethau Seneddol Gydsyniad Brenhinol ar 14 Rhagfyr 2020. Mae hyn yn galluogi’r Comisiwn Ffiniau i Gymru (CFfG) i ddechrau arolwg ffiniau newydd yn 2021.

Bydd CFfG yn gwneud trefniadau i gyfarfod â phartïon â buddiant yn y Flwyddyn Newydd, yn ogystal â chyhoeddi’r Cwota Etholiadol, dyrannu etholaethau a chyhoeddi ‘Canllaw i’r Arolwg’.

Darpariaethau Terfynol y Ddeddf
Mae’r Ddeddf yn diwygio deddfwriaeth bresennol, gan wneud darpariaeth ar gyfer: nifer yr etholaethau (gan gadw’r 650 presennol); y rheolau sy’n llywodraethu’r modd y dylid llunio ffiniau a phroses yr arolwg o ffiniau; a’r broses ar gyfer gweithredu’r argymhellion hynny yn gyfreithiol. Mae’r Bil yn cau arolwg ffiniau 2018 (a gynhaliwyd ar sail 600 o etholaethau) heb ei weithredu.

Diwygiadau a wnaed trwy gydol taith y Ddeddf drwy’r Senedd

  • defnyddio data cofrestr etholiadol Mawrth 2020, yn hytrach na data 1 Rhagfyr 2020, ar gyfer yr arolwg nesaf o ffiniau, oherwydd effaith Covid-19 ar y canfasiad;
  • creu etholaeth warchodedig ychwanegol ar gyfer Ynys Môn; a 
  • thri diwygiad sy’n amodi bod rhaid i’r Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor sy’n gweithredu argymhellion terfynol y Comisiynau Ffiniau gael ei gyflwyno i’w Mawrhydi, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol a chyn pen pedwar mis ar ôl i bob un o bedwar adroddiad y Comisiynau Ffiniau gael eu rhoi gerbron y Senedd, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y Ddeddf a’r dadleuon a aeth rhagddynt trwy gydol taith y Ddeddf drwy’r Senedd yma. Bydd fersiwn derfynol y Ddeddf a Nodiadau Esboniadol yn cael eu cyhoeddi cyn hir yn legislation.gov.uk