Cau cyfnod ymgynghori etholaethau Cymru

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn derbyn nifer uchaf o ymatebion

Daeth cyfnod ymgynghori cychwynnol Arolwg 2023 y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar etholaethau seneddol i ben am 23:59 ar 3 Tachwedd, gyda’r nifer uchaf erioed o ymatebion yn dod i law ers 8 Medi.

Yr ymgynghoriad - ar gynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer y map newydd o 32 o etholaethau seneddol Cymru - yw’r cyntaf mewn sawl cyfle i’r cyhoedd chwarae rhan yn y broses cyn i’r Argymhellion Terfynol gael eu cyhoeddi yn 2023.

Derbyniodd y Comisiwn dros 1,100 o ymatebion yn ystod yr ymgynghoriad 8 wythnos, mwy na dwbl y nifer a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod cyfatebol yn Arolwg 2018.

Mae rhai ardaloedd sy’n hollti barn wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad, gyda llawer o ymatebwyr yn darparu adborth gwerthfawr ar gynigion ar gyfer eu hardal leol.

Nododd nifer o ymatebwyr eu gwrthwynebiad i'r gostyngiad yn nifer yr etholaethau yng Nghymru. Penderfynwyd y mater hwn gan y Senedd, ac ni all y Comisiwn effeithio ar y penderfyniad hwn.

Fodd bynnag, roedd llawer o blaid y newidiadau a gynigiwyd ar gyfer eu hardal, gydag ymatebwyr yn nodi eu boddhad bod eu cymuned yn cael ei symud i etholaeth y mae ganddynt fwy o gysylltiadau â hi.

Cyhoeddir yr holl sylwadau a dderbynnir gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod ymgynghori 8 wythnos yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth sôn am gau’r ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ, “Rwy’n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am chwarae rhan mor weithgar yn yr Arolwg hwn.

“Pan gyhoeddom ein cynigion cychwynnol, gofynnom i’r cyhoedd gymryd rhan, gan wybod y bydd eu gwybodaeth leol yn amhrisiadwy i’r Comisiwn wrth ddatblygu etholaethau seneddol sy’n adlewyrchu barn yr etholwyr.

“Rwy’n falch iawn bod pobl ledled Cymru wedi ymateb gyda’r fath frwdfrydedd, a bydd y Comisiwn nawr yn cymryd amser i ystyried yr ymatebion a gawsom cyn i ni agor ein cyfnod ymgynghori eilaidd a chynnal gwrandawiadau cyhoeddus yn y flwyddyn newydd.”

Bydd y cyfnod ymgynghori eilaidd yn agor ym mis Ionawr ble bydd gan y cyhoedd cyfle i wneud gwrthddadleuon neu siarad o blaid sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol.

Bydd y cyfnod ymgynghori eilaidd yn para 6 wythnos a bydd hefyd yn cynnwys 5 gwrandawiad cyhoeddus a gynhelir ledled Cymru.

Cyhoeddir mwy o fanylion am y gwrandawiadau cyhoeddus maes o law.