Swydd wag - Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Bydd tîm yr Ysgrifenyddiaeth ar y cyd yn gweithio ar ddwy brif raglen Arolygon Ffiniau dros y ddwy flynedd a hanner nesaf.

Bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn dechrau ar yr Arolwg o Etholaethau Seneddol ar ddechrau 2021. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am lunio Ffiniau Etholaethau Seneddol yng Nghymru a disgwylir y bydd yr Arolwg proffil uchel hwn yn cael ei gynnal o dan ddeddfwriaeth newydd, gydag adroddiad terfynol i’w gyflwyno ym mis Gorffennaf 2023.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC) yn dod at ddiwedd ei Raglen Arolygon Etholiadol gywasgedig bresennol a ddechreuodd yn 2017. Yng nghanol 2021, bydd yn dechrau ar baratoadau ar gyfer y rhaglen 10 mlynedd nesaf, a bydd yn dechrau ar waith ymgysylltu ac ymgynghori â’i randdeiliaid er mwyn galluogi’r cyfnod adolygu newydd i ddechrau yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru yn 2022. Mae CFfDLC yn bwriadu creu ffyrdd newydd o gynyddu gwybodaeth y cyhoedd am waith a rôl y Comisiwn, yn ogystal â gwella hygyrchedd ei waith.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain y ffrwd waith cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y ddau Gomisiwn.

 

Disgrifiad o’r swydd

Eich rôl chi fydd cyflwyno a rheoli negeseuon a chyfathrebiadau cyhoeddus yn cynnwys cysylltiadau â’r wasg, gwaith ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer yr Arolwg o Etholaethau Seneddol sydd i’w gynnal yn 2023, a’r gwaith ymgysylltu i baratoi ar gyfer Rhaglen Arolygon Etholiadol Llywodraeth Leol 2022.

Os ydych yn llwyddiannus, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, y Pennaeth Polisi a Rhaglenni yn ogystal â’r Comisiynwyr ar draws y ddau Gomisiwn.

 

Cyfrifoldebau

Fel rhywun sy’n frwd dros gyfathrebu ac ymgysylltu, byddwch yn chwilio am gyfleoedd i greu newid effeithiol ac yn awgrymu syniadau arloesol ar gyfer gwella. Byddwch yn defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor arbenigol, cywir.

Byddwch yn gyfrifol am :

  • Dyfu presenoldeb y Comisiwn yn y cyfryngau ac yn gweithio fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl gysylltiadau’r cyfryngau
  • Datblygu Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y ddwy raglen Arolygon
  • Drafftio ymatebion i gyfarfodydd briffio, ymholiadau a gohebiaeth yn unol â pholisïau cytûn y Comisiwn, ac yn helpu paratoi cyfarfodydd briffio pan fydd angen
  • Cynorthwyo’r Prif Weithredwr gyda gwaith cysylltiadau cyhoeddus
  • Rheoli a chyflwyno digwyddiadau fel gweithdai, sesiynau ymgynghori, cyfarfodydd briffio’r cyfryngau ac ati
  • Goruchwylio gwefan y Comisiwn a rheoli ein presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol yn uniongyrchol
  • Goruchwylio cyhoeddi adroddiadau allweddol a chynhyrchion cyfathrebu allanol eraill
  • Cynorthwyo’r Pennaeth Polisi a Rhaglenni gydag ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Bod yn rheolwr llinell i Swyddogion Cymorth Arolygon.

 

Darllenwch y Disgrifiad o’r Swydd sy’n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl, pwy rydym ni’n chwilio amdano a’r meini prawf y byddwn yn asesu yn eu herbyn yn ystod y broses ddethol. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais a dymunwn bob llwyddiant i chi.

 

Ymddygiadau

Cewch eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Cyflawni’n Gyflym
  • Newid a Gwella
  • Gweld y Darlun Mawr
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Gweithio gyda’n Gilydd

 

Buddion

  • Dysgu a datblygu wedi’u teilwra i’ch rôl
  • Amgylchedd lle ceir opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy’n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • 31 Diwrnod o Wyliau Blynyddol y flwyddyn

 

Pethau y mae angen i chi wybod amdanynt

 

Diogelwch

Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus basio gwiriad diogelwch datgelu a gwahardd.

Mae’n rhaid i bobl sy’n gweithio gydag asedau’r llywodraeth gwblhau gwiriadau Safonol diogelwch personél sylfaenol.

 

Manylion y broses ddethol

Mae’r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, a bydd yn asesu’ch Ymddygiadau a Phrofiad.

Os byddwch yn llwyddo yn y cam llunio’r rhestr fer, cewch eich gwahodd i’r cam dethol terfynol sy’n cynnwys cyfweliad.

Dim ond os byddwch yn mynychu cyfweliad y bydd adborth yn cael ei ddarparu.

 

Gofynion o ran cenedligrwydd

Yn agored i wladolion y DU, Y Gymanwlad a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a rhai gwladolion nad ydynt yn yr AEE. Ceir rhagor o fanylion ar b’un a allwch chi ymgeisio yma.

 

Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel yr amlinellir yn
egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

Mae cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol.

 

Pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr

Enw : Tom Jenkins

E-bost : swyddi@ffiniau.cymru

Ffôn : 02920 464819

Dylid anfon ceisiadau (CV a llythyr eglurhaol sy’n cynnwys sut rydych yn arddangos y Proffiliau Llwyddiant) drwy’r e-bost i swyddi@ffiniau.cymru erbyn 11:59pm 08 Hydref 2020.

Lawrlwytho Dogfen