Comisiwn Ffiniau yn cyhoeddi ymatebion ymgynghoriad

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi’r cynrychiolaethau a gafodd yn ystod ei Gyfnod Ymgynghori Eilaidd ar etholaethau newydd arfaethedig Cymru.

Derbyniodd y Comisiwn 156 o gynrychiolaethau ysgrifenedig yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Eilaidd a chlywodd dystiolaeth lafar gan 81 o gyfranogwyr yn y 5 Gwrandawiad Cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cymru.

Agorodd yr ymgynghoriad ar 17 Chwefror 2022 gyda Gwrandawiad Cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a daeth i ben ar 30 Mawrth 2022 gyda’r Gwrandawiad Cyhoeddus terfynol yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod yn Aberystwyth.

Gofynnwyd i’r rhai a roddodd dystiolaeth i’r Ymgynghoriad Eilaidd ymateb i gynrychiolaethau a wnaed yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol fel y gallai’r Comisiwn ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r materion ledled Cymru cyn cwblhau eu Cynigion Diwygiedig, i’w cyhoeddi yn yr hydref.

Arweiniwyd y Gwrandawiadau Cyhoeddus gan banel o Gomisiynwyr Cynorthwyol y Comisiwn, Steven Phillips, Andrew Clemes, Dr Gwenllian Lansdown Davies, a Dr Arun Midha.

Cafwyd cynrychiolaethau o bob rhan o Gymru, gyda siaradwyr yn rhoi tystiolaeth ym mhob un o’r 5 Gwrandawiad Cyhoeddus.

Yng Nghaerdydd y daeth y Gwrandawiad Cyhoeddus cyntaf, gyda 25 o siaradwyr a 48 o arsylwyr yn bresennol.

Gwelodd Wrecsam 10 siaradwr a 21 o arsylwyr. Abertawe oedd â'r nifer uchaf o siaradwyr, sef 28 a gwelwyd 33 o arsylwyr. Ym Mangor roedd 6 siaradwr a 15 sylwedydd, ac yn Aberystwyth roedd 12 siaradwr ac 16 sylwedydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams MBE OStJ: “Hoffem gymryd y cyfle hwn unwaith eto i ddiolch i bawb a gyflwynodd eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori eilaidd.

“Mae’r Comisiynwyr Cynorthwyol wedi bod yn ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law ac maent bellach wedi cyflwyno eu hadroddiad ar y cynrychiolaethau i’r Comisiwn.

“Mae’r Comisiwn bellach yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn cynllunio cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig yn yr Hydref.

“Ar ddechrau’r Arolwg hwn fe wnaeth y Comisiwn yn glir y byddai cynigion yn newid yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd yn ystod ein hymgynghoriadau lluosog.

“Pan fydd y Cynigion Diwygiedig yn cael eu cyhoeddi bydd cyfle pellach i’r cyhoedd ddweud eu dweud ac effeithio ar y cynigion cyn i’n Hargymhellion Terfynol gael eu cyflwyno i’r Senedd.”

 

Dewch o hyd i’r cynrychiolaethau yma: https://comffin-cymru.gov.uk/adolygiadau/06-22/cynrychiolaethau-dderbyniwyd-yn-ystod-y-cyfnod-ymgynghori-eilaidd