23 Mawrth 2016

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cyhoeddi ei fod wedi cychwyn arolwg o Gymru gyfan, yn unol â Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011.  Ni fydd yr arolwg yn cynnwys ystyriaeth o gynigion ar gyfer etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru na rhanbarthau etholiadol.

Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad o’i arolwg erbyn diwedd Medi 2018.  Mae’r Comisiwn yn disgwyl cwblhau’r arolwg o fewn y terfyn amser statudol.

Bydd argymhellion y Comisiwn yn seiliedig ar niferoedd yr etholwyr ar y cofrestri etholiadol ar 1 Rhagfyr 2015.  Cyhoeddwyd y rhain gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 24 Chwefror 2016.

Ewch i'n Tudalen  Arolwg 2018 am fwy o wybodaeth.