28 Chwefror 2017

Heddiw, mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi yr holl ymatebion a gafodd yn ystod ei ymgynghoriad cychwynnol ar y newidiadau a gynigir i etholaethau Seneddol yng Nghymru – yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus.

Mae’r lansiad yn ddechrau cyfnod statudol o bedair wythnos lle gall unigolion a sefydliadau ddarllen yr ymatebion a wnaed gan eraill a rhoi sylwadau arnynt. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 28 Chwefror a 27 Mawrth 2017.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus ar ei Porth Ymgynghori.