Arolwg 2018 Cynigion Cychwynnol

31/12/16
Arolygon 2018

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Mae’r cynigion yn roi ystyriaeth ofalus i'r datblygiadau ers yr arolwg cyffredinol diwethaf, yn arbennig y newid i’r ddeddfwriaeth ar ystadegau etholiadol 2015.  Pwysleisir, fodd bynnag, bod y cynigion yn rhai arfaethedig. Rhoddir pwys mawr i'r cyfle sydd ar gael yn awr i bawb gyflwyno cynrychiolaethau i'r Comisiwn, p'un a ydynt o blaid neu yn erbyn y cynigion.
Mae dau amod sylfaenol o ddeddfwriaeth wedi'i orfodi ar y Comisiwn a hoffem dynnu eich sylw atyn nhw: nifer yr etholaethau a ddyrannwyd i Gymru ac amrediad etholwyr statudol.

Gostyngiad yn nifer yr etholaethau

Bydd cwota etholiadol y DU a'r lleihad yng nghyfanswm nifer yr etholaethau yn y DU o 650 i 600 yn golygu y bydd lleihad yn nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 29.  Y canlyniad yw newid sylfaenol i'r patrwm presennol o etholaethau ym mhob rhan o Gymru.

Amrediad etholwyr statudol

Mae'r rheolau newydd yn golygu bod rhaid i bob etholaeth yng Nghymru gael etholwyr ar ddyddiad yr arolwg sydd ddim yn  llai na 71,031 ac ddim yn  fwy na 78,507.

Wrth gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn, dylid cadw’r  ffactorau statudol hyn mewn cof.

Mae'r Comisiwn wedi datblygu porth ymgynghori lle gallwch weld y cynigion, lawrlwytho adroddiadau, mapiau ac ystadegau y Comisiwn a chyflwyno eich sylwadau am y cynigion.

Lawrlwytho Dogfen