Cynigion Diwygiedig (Hydref 2017)

31/10/17
Arolygon 2018

Mae cynigion diwygiedig y Comisiwn yn rhoi ystyriaeth i'r ymatebion a dderbyniom mewn ymateb i'r cynigion cychwynnol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012, yn ystod dau gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ac addysgiadol. 

Mae'r cynigion yn parhau i fodloni gofynion y Ddeddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011, yn cynnwys lleihad yn y nifer o etholaethau yng Nghymru o 40 i 29 a nifer fwy cyfartal o etholwyr ym mhob etholaeth (rhwng 71,031 a 78,507).

Mae adroddiad cynigion diwygiedig y Comisiwn ar gael i'w lawrlwytho isod. Ynghyd â hyn ceir adroddiad gan y Comisiynwyr Cynorthwyol a benodwyd gan y Comisiwn i roi barn annibynnol ac i wneud argymhellion yn seiliedig ar yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn. 

Ar gyfer mapiau a gwybodaeth gefnogol atodol, gweler y ddewislen ar y chwith.