Yr Ail Cyfnod Ymgynhori

28/02/17
Arolygon 2018

Cyhoeddodd Y Comisiwn yr holl ymatebion a gafodd yn ystod ei ymgynghoriad cychwynnol ar y newidiadau a gynigir i etholaethau Seneddol yng Nghymru – yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus – ar 28 Chwefror 2017.

Mae’r lansiad yn ddechrau cyfnod statudol o bedair wythnos lle gall unigolion a sefydliadau ddarllen yr ymatebion a wnaed gan eraill a rhoi sylwadau arnynt. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 28 Chwefror a 27 Mawrth 2017. Ni chaiff unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl 28 Mawrth felly eu hystyried.

Cyhoeddwyd yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus ar Porth Ymgynghori y Comisiwn  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o’r uchod, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Comisiwn.