Chwilio gwirfoddolwyr i brofi'r porth ymgynghori

Yn ystod yr arolwg diwethaf o etholaethau, defnyddiodd y Comisiwn gwefan ymgynghori rhyngweithiol er mwyn casglu barn y cyhoedd. Defnyddiwyd y gwasanaeth yma gan y mwyafrif helaeth o ymatebwyr i'r ymgynghoriad, ac roedd yr adborth yn bositif iawn ar y cyfan. Felly, bwriad y Comisiwn yw defnyddio gwasanaeth tebyg ar gyfer yr Arolwg 2023.

Mae'r Comisiwn felly wedi dechrau ar y gwaith o adfywio a diweddaru'r gwasanaeth ymgynghori ar-lein, ond yn ystod y broses yma hoffwn gasglu ac ystyried barn defnyddwyr posib er mwyn i ni allu gwella ac uchafu profiad defnyddwyr yn y pen draw.

Rydym felly yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein hymchwil, dros y misoedd nesaf yn bennaf cyn i ni gyhoeddi ein hargymhellion, ond rydym hefyd yn ystyried ffurfio panel er mwyn profi unrhyw ddatblygiadau pellach yn y gwasanaeth. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol gyda'r proses o ffurfio etholaethau, na unrhyw brofiad o dechnoleg geo-ofodol.

Os hoffwch gofrestru'ch diddordeb mewn helpu ni i wella'r elfen yma o'n proses ymgynghori, anfonwch e-bost i ni cyn gynted â phosib: cffg@ffiniau.cymru