Cynigion Cychwynnol (Ionawr 2012)

31/01/12
Arolygon 2013

Mae'r cynigion yn rhoi ystyriaeth ofalus i ddatblygiadau ers yr arolwg cyffredinol diwethaf, yn enwedig y newid sylfaenol i'r ddeddfwriaeth. Pwysleisir, fodd bynnag, mai rhai dros dro yw bob un o'r cynigion. Rhoddir pwys mawr ar y cyfle i bawb sy'n gysylltiedig wneud cynrychiolaethau i'r Comisiwn, pa un a ydynt yn cefnogi'r cynigion neu'n eu gwrthwynebu.

Mae'r Comisiwn wedi penderfynu cyhoeddi cynigion cychwynnol ar gyfer Cymru gyfan mewn un ddogfen unigol. Lle'r oedd yn bosibl mewn arolygon blaenorol i gyflwyno cynigion trwy gyfeirio at yr 8 sir gadwedig yng Nghymru, nid yw hyn yn bosibl mwyach. Bu'n angenrheidiol cynnal yr arolwg hwn ar sail Cymru gyfan.