Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cyhoeddi ei fod wedi cychwyn arolwg o Gymru gyfan, yn unol â Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011. Ni fydd yr arolwg yn cynnwys ystyriaeth o gynigion ar gyfer etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru na rhanbarthau etholiadol.
Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad o’i arolwg erbyn diwedd Medi 2018. Mae’r Comisiwn yn disgwyl cwblhau’r arolwg o fewn y terfyn amser statudol.
Bydd argymhellion y Comisiwn yn seiliedig ar niferoedd yr etholwyr ar y cofrestri etholiadol ar 1 Rhagfyr 2015. Cyhoeddwyd y rhain gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 24 Chwefror 2016.
Ewch i'n Tudalen Arolwg 2018 am fwy o wybodaeth.