Cyflwynodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru ei Adroddiad Argymhellion Terfynol ar gyfer Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru ar 5 Medi 2018. Cyflwynwyd yr Adroddiad i'r Gweinidog ar gyfer Swyddfa'r Cabinet yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986, fel y'i diwygiwyd. Mae'r argymhellion yn cymryd ystyriaeth ofalus o'r holl sylwadau a wnaed i'r Comisiwn trwy gydol yr Arolwg. Mae'r Comisiwn wedi argymell etholaethau sydd, yn ei farn, yn gweithredu’r Rheolau yn Atodlen 2 i'r Ddeddf orau.
Mae'r Comisiwn wedi'i hysbysu gan y Llywodraeth bod yr adroddiad wedi'i osod gerbron y Senedd. Mae'r Adroddiad wedi'i gyhoeddi ar y wefan a’r porth ymgynghori. Nid oes unrhyw newidiadau daearyddol i'r etholaethau a argymhellir o'r rhai a gynigir yn yr Adroddiad Cynigion Diwygiedig. Mae tri newid i enwau etholaethau yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cynigion Diwygiedig.
Ni fydd dosbarthiad copïau caled o'r Adroddiad a mapiau ond maent ar gael i'w llwytho i lawr, ac mae'r ffiniau a argymhellir wedi eu gorchuddio ar y map rhyngweithiol ar y porth ymgynghori.