Arolwg 2013

31/12/12
Arolygon 2013

Cynhaliwyd Arolwg 2013 yn unol â gofynion Deddf Etholaethau Seneddol 1986 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (dolen allanol).

Mae ‘Arolwg 2013 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru – Llyfryn Gwybodaeth’ yn crynhoi’r fframwaith statudol perthnasol a’r modd y mae’r Comisiwn yn cynnal yr arolwg yn gyffredinol.

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus am yr arolwg i ben ym mis Rhagfyr 2013. Mae cynigion y Comisiwn ym mhob cam i’w gweld yn y ddewislen ar y chwith.

Ym mis Ionawr 2013, pasiodd Senedd San Steffan Fesur Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol (fel ag yr oedd bryd hynny) a ddiwygiodd Ddeddf y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau. Cafodd y dyddiad pryd y mae’n rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei argymhellion ar gyfer diwygio ffiniau etholaethau Seneddol ei newid o ‘cyn 1 Hydref 2013’ i ‘1 Medi 2018 ar y cynharaf, a chyn 1 Hydref 2018’.

Fel sail ar gyfer ei argymhellion, mae’n ofynnol i’r Comisiwn ddefnyddio etholaeth ardal benodol ar ‘ddyddiad yr arolwg’, ac mae’r Ddeddf yn diffinio dyddiad yr arolwg fel dwy flynedd a deg mis cyn y dyddiad y mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad ger bron Senedd San Steffan.

Felly, mae'r diwygiad hwn wedi canslo Arolwg 2013.

Os heffech gysylltu â’r Comisiwn, ffoniwch 02920 464819 neu anfonwch neges e-bost i comffin.cymru@cymru.gsi.gov.uk.