Cwestiynau Cyffredin

31/10/12
Arolygon 2013

Arolwg 2013

Sut penderfynwyd ar nifer gyfartalog yr etholwyr? Pa feini prawf y gwnaethoch eu defnyddio?

Mae Deddf Systemau Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (Dolen allanol) yn gosod rheolau newydd i'r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal arolwg o ffiniau etholaethau Seneddol. Ni wnaed y penderfyniadau hyn gan y Comisiwn ei hun. Penderfynwyd ar y ffigur ar gyfer nifer yr etholaethau yng Nghymru trwy ddefnyddio'r fformiwla a bennwyd yn y ddeddfwriaeth. Gweler ein llyfryn gwybodaeth am ragor o fanylion. 

Pam toriad o 25% yng Nghymru?

Bu graddau'r newid yn sylweddol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gan 39 o'r 40 o ASau sy'n cynrychioli Cymru yn Nh?'r Cyffredin ar hyn o bryd etholaethau â llai o etholwyr cofrestredig nag sy'n ofynnol dan y Ddeddf newydd, ac yn sylweddol is mewn llawer o achosion. Bydd paramedrau rhifiadol y Ddeddf yn golygu bod pob etholaeth yn y DU yn cynnwys rhwng 72,810 ac 80,473 o etholwyr (heblaw am bedwar eithriad penodol, y bydd dau ohonynt yn berthnasol i Loegr a dau ohonynt yn berthnasol i'r Alban) a bod gan Gymru 30 AS.

Pam nad yw Ynys Môn yn eithriad i'r cwota etholiadol?

Ceir pedwar eithriad i 'Reol 2' Deddf Systemau Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011, sy'n gosod y paramedrau ar gyfer maint etholaethau ledled y DU. Dwy etholaeth ar Ynys Wyth yn Lloegr, ac Ynysoedd Erch ac Ynysoedd Shetland a Na h-Eileanan ân Iar yn yr Alban yw'r rhain. Ni chynhwysodd y Senedd eithriad ar gyfer Ynys Môn yn y ddeddfwriaeth. 

Pam ydych chi wedi defnyddio data'r gofrestr etholiadol yn hytrach na data'r boblogaeth. A yw nifer yr etholwyr cofrestredig yn ddibynadwy?

Yn ôl y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Comisiwn ddefnyddio nifer yr etholwyr ar y cofrestrau etholiadol ar 'ddyddiad yr arolwg' yn sail ar gyfer yr arolwg.

Nid yw'r Comisiwn yn berchen ar gofrestrau etholiadol nac yn eu coladu - cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw'r rhain. Mae'r Ddeddf yn gofyn i'r Comisiwn ddefnyddio ffigurau cyhoeddedig, felly ni all y Comisiwn ystyried unrhyw achosion o dangofrestru neu orgofrestru sy'n cael eu honni mewn rhai ardaloedd.

Sut caiff etholaethau Seneddol eu diweddaru i adlewyrchu nifer gyfnewidiol yr etholwyr mewn ardaloedd gwahanol?

Ar gyfer arolwg 2013, roedd yn ofynnol i'r Comisiwn ystyried nifer yr etholwyr cofrestredig ar 'ddyddiad yr arolwg'. Dywed y Ddeddf fod rhaid cynnal arolwg o'r etholaethau Seneddol bob pum mlynedd o hyn ymlaen.

I ba raddau y mae'r Comisiwn wedi ystyried ffiniau llywodraeth leol?

Mae'r Comisiwn wedi ystyried ffiniau llywodraeth leol, lle bo hynny'n bosibl. Mae'r rhain yn cynnwys ffiniau allanol awdurdodau unedol a ffiniau eu hadrannau etholiadol, cymunedau neu wardiau cymunedol mewnol hefyd, fel yr oeddent ar y diwrnod ethol cynghorwyr cyffredin diweddaraf cyn dyddiad yr arolwg (mae'r Ddeddf yn diffinio'r ffiniau hyn yng Nghymru fel ffiniau siroedd a bwrdeistrefi sirol a ffiniau'r adrannau etholiadol, cymunedau a'r wardiau cymunedol oddi mewn iddynt). At ddibenion yr arolwg hwn, 1 Rhagfyr 2010 yw dyddiad yr arolwg, felly'r ffiniau llywodraeth leol a ddefnyddiwyd oedd y rhai a oedd mewn grym ar 6 Mai 2010.

Mae adrannau etholiadol (wardiau) yn unedau sydd wedi'u diffinio a'u deall yn dda, ac sy'n arwydd cyffredinol o ardaloedd sydd â chymuned fuddiant gyffredinol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'r Comisiwn wedi'i hystyried yn briodol i wahanu adrannau etholiadol er mwyn creu etholaethau sy'n bodloni'r gofynion deddfwriaethol. Yn yr achosion hyn, mae'r Comisiwn wedi edrych ar ffiniau cymunedol er mwyn datblygu cynigion y mae'n credu sy'n cefnogi cysylltiadau lleol orau o fewn y paramedrau cyfreithiol.

A yw'r Comisiwn wedi ystyried barn gwleidyddion wrth ddatblygu'r cynigion hyn?

Mae'r Comisiwn yn gorff annibynnol a diduedd, felly nid yw'n ystyried patrymau pleidleisio presennol a ffawd pleidiau gwleidyddol yn ystod arolwg. Mae'n ystyried y ffactorau hynny y dywed y Ddeddf y gall (neu y mae'n rhaid iddo) eu hystyried yn unig.

Pa feini prawf eraill a ddefnyddiwyd?

(Yn unol â'r Ddeddf) a gall Comisiwn ystyried:

  • ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys maint, siâp a hygyrchedd etholaeth;
  • ffiniau llywodraeth leol fel y maent yn bodoli ar y diwrnod ethol cynghorwyr cyffredin diweddaraf cyn dyddiad yr arolwg;
  • ffiniau etholaethau presennol;
  • unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu chwalu trwy newid etholaethau.

Cyn belled ag y bo modd, mae'r Comisiwn yn ceisio creu etholaethau yng Nghymru:

  • adrannau etholiadol sy'n gyfagos at ei gilydd; ac
  • nad ydynt yn cynnwys 'rhannau datgysylltiedig' h.y. lle byddai'r unig gysylltiad ffisegol rhwng un rhan o'r etholaeth a'r gweddill yn golygu y byddai'n rhaid mynd drwy etholaeth wahanol.

Pam ydych chi wedi newid enwau rhai etholaethau?

Polisi'r Comisiwn ar gyfer enwi etholaethau yw, os bydd etholaethau'n aros fel y maent i raddau helaeth, dylid cadw enw presennol yr etholaeth. Caiff enwau etholaethau eu newid pan fo angen gwneud hynny yn unig. Mae'r Comisiwn yn croesawu sylwadau ar enwau etholaethau fel rhan o'i ymgynghoriad cyhoeddus.

Sut ydych wedi penderfynu ar ddynodiad etholaethau? Beth yw canlyniad hyn?

Mae'r term 'dynodiad' yn cyfeirio at ddosbarthiad etholaeth fel naill ai'n 'etholaeth fwrdeistrefol' neu'n 'etholaeth sirol'; mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddynodi pob etholaeth yn un neu'r llall.

Yn gyffredinol, mae'r Comisiwn o'r farn y dylid dynodi etholaethau sy'n cynnwys mwy nag elfen wledig fechan yn etholaethau sirol, fel arfer. Mewn achosion eraill, dylid eu dynodi'n etholaethau bwrdeistrefol. Caiff y dynodiad ei ôl-ddodi at enw'r etholaeth a'i dalfyrru, fel arfer: BC neu CC.

Yn gyffredinol mae'r dynodiad yn pennu pwy fydd yn gweithredu fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau Seneddol. Mae'r dynodiad hefyd yn pennu'r terfyn ar y swm y caniateir i ymgeisydd ei wario yn ystod etholiad Seneddol yn yr etholaeth. Mae'r terfyn ychydig yn is mewn etholaethau bwrdeistrefol, er mwyn adlewyrchu'r costau is o gynnal ymgyrch mewn ardal drefol, gywasgedig fel arfer.

Sut mae'r Cynigion Cychwynnol hyn yn cysylltu ag etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC)?

Mae'r Cynigion yn cyfeirio at etholaethau Seneddol San Steffan yn unig. O dan y Ddeddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau, diddymwyd y cysylltiad rhwng y ddwy set o etholaethau. Byddai unrhyw gynnig i greu mecanwaith i adolygu etholaethau CCC yn gyfrifoldeb Swyddfa Cymru/y Llywodraeth. Ar 21 Mai 2012, cyhoeddodd Swyddfa Cymru Bapur Gwyrdd ar ‘Drefniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Dyfodol’.  

Sut mae'r Cynigion Cychwynnol hyn yn cysylltu â'r gweithgareddau Llywodraeth Leol sydd eisoes ar y gweill?

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn endid ar wahân i'r Comisiwn. Nid oes unrhyw gydberthynas rhwng Arolwg 2013 a rhaglen waith CFfLlL Cymru.

Y Comisiwn Ffiniau i Gymru

Beth yw'r Comisiwn / Beth yw swyddogaeth y Comisiwn?

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff cyhoeddus anadrannol annibynnol a diduedd sy'n gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau Seneddol yng Nghymru ac am argymell newidiadau i'r Senedd.

Pwy yw'r Comisiynwyr?

Cafodd y Comisiynwyr eu dethol trwy gystadleuaeth gyhoeddus agored.

  • Dirprwy Gadeirydd: Yr Anrhydeddus Mr Ustus Wyn Williams (a olynodd Yr Anrhydeddus Mr Ustus Lloyd Jones ar 1 Hydref 2012)
  • Aelodau'r Comisiwn: Mr Paul Loveluck CBE, Yr Athro Robert McNabb

Mae'r dirprwy gadeirydd, sy'n llywyddu cyfarfodydd y Comisiwn, yn un o farnwyr yr Uchel Lys sy'n cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor. Caiff y ddau aelod arall eu penodi ar y cyd gan Arglwydd Lywydd y Cyngor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.