Mae cynigion diwygiedig y Comisiwn yn rhoi ystyriaeth i'r ymatebion a dderbyniom mewn ymateb i'r cynigion cychwynnol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012, yn ystod dau gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ac addysgiadol. Mae'r cynigion hefyd yn parhau i fodloni gofynion y Ddeddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011, yn cynnwys lleihad yn y nifer o etholaethau yng Nghymru o 40 i 30 a nifer fwy cyfartal o etholwyr ym mhob etholaeth (rhwng 72,810 a 80,473).
Mae adroddiad cynigion diwygiedig y Comisiwn ar gael i'w lawrlwytho isod. Ynghyd â hyn ceir adroddiad gan y Comisiynwyr Cynorthwyol a benodwyd gan y Comisiwn i roi barn annibynnol ac i wneud argymhellion yn seiliedig ar yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn.